Cyn-gefnwr Cymru a'r Llewod Terry Davies wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Terry DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Yn 88 oed bu farw cyn-gefnwr Cymru a'r Llewod Terry Davies.

Enillodd 21 o gapiau i'w wlad rhwng 1953 a 1961 er iddo golli tri thymor yn sgil anaf i'w ysgwydd.

Y Cymro oedd prif sgoriwr taith y Llewod i Awstralia a Seland Newydd yn 1959 er iddo ond chwarae mewn 13 o'r 31 gêm.

Chwaraeodd mewn dwy gêm brawf, gan gynnwys buddugoliaeth yn erbyn y Crysau Duon yn Auckland.

Cafodd ei fagu ym mhentref Bynea, ger Llanelli a chael ei gap cyntaf yn ei arddegau pan roedd yn chwarae i Abertawe. Aeth ymlaen i chwarae i Lanelli wedi'r bwlch yn ei yrfa.

'Roedd yn arwr i mi'

"Pan roeddwn yn fachgen ifanc ro'n i'n ffodus iawn i weld Terry'n chwarae ar ei orau," meddai cyn-faswr Cymru a'r Llewod, a llywydd y Scarlets, Phil Bennett.

"Roedd yn arwr i mi, bachgen lleol o bentref Bynea, ond chwaraewr oedd â rhyw rin yn ei gylch.

"Roedd yn gallu taclo, cicio goliau, torri'r llinell - roedd yn chwaraewr eithriadol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn adnabyddus fel taclwr caled, fe sgoriodd 50 o bwyntiau i Gymru a phump mewn gemau prawf dros y Llewod.

Davies oedd "seren gyntaf Cymru" yn safle'r cefnwr, yn ôl cyhoeddwyr ei hunangofiant.

Fe dreuliodd gyfnod gyda'r Môr-filwyr Brenhinol ac fe weithiodd hefyd fel masnachwr coed.

Pynciau cysylltiedig