Y Llewod i ruo am y tro olaf yn Ne Affrica

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gyfres yn y fantol wrth i Alun Wyn Jones arwain y Llewod yn eu gêm derfynol yn erbyn De Affrica yn Cape Town ddydd Sadwrn.

Er buddugoliaeth drawiadol o 22-17 yn eu gêm gyntaf yn erbyn y Springboks, mae colled drom yn eu hail ymdrech wedi codi'r pwysau ar dîm Warren Gatland.

Mewn ymdrech i gipio'r gyfres yn Ne Affrica am y tro cyntaf ers 1997, mae prif hyfforddwr Gatland wedi gwneud chwe newid i'r 15 fydd yn dechrau.

Bydd chwe Chymro yn dechrau yn erbyn pencampwyr y byd, gydag un arall yn rhan o'r garfan fel eilydd.

Mae'r capten Alun Wyn Jones a'r maswr Dan Biggar yn cadw'u llefydd yn y tîm, gyda Wyn Jones, Ken Owens, Josh Adams a Liam Williams yn ymuno gyda nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen i'r Llewod fod yn fwy disgybledig ar ôl bod yn euog o ildio gormod o giciau cosb yn yr ail brawf

Bydd Adam Beard, a oedd yn ychwanegiad hwyr i'r daith, yn gobeithio creu argraff oddi ar y fainc.

Mae De Affrica hefyd wedi gorfod gwneud newidiadau i'r tîm gurodd y Llewod 27-9 yn yr ail brawf, gan golli cyn-chwaraewr y flwyddyn Pieter-Steph du Toit a'r mewnwr Faf de Klerk oherwydd anafiadau.

Os fydd y Llewod yn llwyddo i ennill yn Cape Town, Warren Gatland fydd yr hyfforddwr cyntaf i reoli tair taith heb golli cyfres.

Dadansoddiad Sylwebydd Rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies

Dyw'r sefyllfa bresennol ddim yn ddiarth i Warren Gatland nac i Alun Wyn Jones. Mi oedd yr un bartneriaeth yno wyth mlynedd yn ôl ar ôl colli'r prawf ym Melbourne.

Roedd yn rhaid i'r Llewod ddangos cymeriad, ysbryd a rhywfaint o ddewrder yn erbyn Awstralia. Ysgubwyd y Wallabies o'r neilltu ar noson fythgofiadwy yn Sydney a dim llai na 10 o Gymru yn y pymtheg cychwynnol.

Chwech fydd yn dechrau y tro hwn ond yn sicr mae Gatland wedi troi nôl at yr hyn mae'n ei nabod orau wedi siom yr ail brawf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland wedi mentro, gan wneud chwe newid i'r tîm a gafodd eu trechu yn yr ail brawf

Mae Josh Adams a Liam Williams yn cael cyfle haeddiannol yn y tri ôl - a'r syndod efallai nad ydynt wedi bod yno o'r prawf cyntaf.

Mi fydd Wyn Jones yn ychwanegu cadernid i'r rheng flaen ac yn wych ei weld yn ôl ac o'r diwedd yn gwireddu breuddwyd ar ôl gorfod tynnu nôl yn greulon cyn y prawf cyntaf oherwydd anaf.

'Rhaid mentro bod yn ddewr'

Mi oedd yna nerfusrwydd wythnos yn ôl. Rhyw deimlad bod y Llewod wedi mynd mas i beidio colli yn hytrach na bachu ar y cyfle i ennill.

Ond does dim cyfle arall y tro hwn. Mae'n rhaid mentro bod yn ddewr a dyfeisgar, rhywbeth sydd wedi bod yn absennol yn y gyfres hyd yn hyn.

Mae Warren Gatland ac Alun Wyn Jones (sy'n ennill ei ddeuddegfed cap yng nghrys y Llewod) yn sicr o'u lle yn hanes y tîm unigryw hwn.

Efallai dyw gwaddol y ddau ddim yn y fantol ond byddai colli'r prawf olaf yn ddiweddglo anffodus.

De Affrica yw'r ffefrynnau o drwch blewyn ond does fawr ynddi!

Pynciau cysylltiedig