Nofiwr yn y Gemau Olympaidd yn diolch i gapel Resolfen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Daniel JervisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfweliad Daniel Jervis ymateb aruthrol ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae aelodau capel yn Resolfen ger Castell-nedd yn dweud eu bod yn teimlo balchder aruthrol wrth i un o'u haelodau ddiolch am eu cefnogaeth wedi iddo gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo.

Mewn cyfweliad â'r BBC dywedodd y nofiwr Daniel Jervis ei fod mor falch i fod yn Gristion. Fe ddiolchodd i aelodau ei gapel, Sardis y Bedyddwyr yn Resolfen, a chapel yn Rhydaman am weddïo drosto wrth iddo baratoi i nofio yn ras 1,500m dull rhydd y dynion.

"Rwy eisiau diolch i fy mhentref, Resolfen, fy nghapel, Eglwys Bedyddwyr Sardis, a chapel Rhydaman, a phawb nôl adre sydd wedi bod yn gweddïo drosta i," dywedodd yn Saesneg, "rwy'n falch o sawl peth, ond rwy'n falch o fod yn Gristion. Roedd Duw gyda fi heno ac rwy'n falch i fod yn ei gynrychioli e."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan BBC Sport Wales

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan BBC Sport Wales

Cafodd cyfweliad Daniel Jervis ymateb aruthrol ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda'r fideo yn cael ei wylio 51.5K o weithiau.

Fe orffennodd y ras mewn 14:55.48 sef naw eiliad yn arafach na'i amser gorau - ond ei ymateb e oedd dweud ei fod yn benderfynol o gyrraedd y podiwm yn y gemau Olympaidd nesaf ym Mharis.

'Ni gyd tu ôl iddo fe'

"Does dim geiriau - rwy mor falch ohono fe," medd ei gyfnither, Ffion France, 19, ar raglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Ffion a'i chefnder Daniel ym mhriodas chwaer Daniel

"Mae teulu ni mor agos. Ni wedi bod yn ei gefnogi e reit trwy rili, a'r capel hefyd. Mae e'n dod o bentref mor fach, a ry'n ni gyd yn cefnogi e - ni gyd tu ôl iddo fe."

Fel cyd-aelod o gapel Sardis yn Resolfen, mae Ffion yn credu bod ei chefnder wedi bod yn ddewr i ddatgan ei ffydd mor agored.

"Dwi'n credu mewn ffordd mae'n haws i berson hŷn i ddweud hynna - ond i berson ifanc i ddweud hynna, ar y teledu i'r BBC - mae'n beth enfawr. Fi'n credu dyle fe fod mor falch o hynny. Mae'r capel yn credu hynny hefyd. Mae 'da'r capel WhatsApp group ac yn syth ar ôl iddo fe ddweud hynna roedd e'n posted ar y Whatsapp group. Mae pawb mor falch ohono fe ac yn ei gefnogi e."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd croeso mawr yn disgwyl Daniel Jervis pan fydd yn dychwelyd i Resolfen

Dyma oedd y tro cyntaf i Daniel gystadlu yn y Gemau Olympaidd ond fe enillodd fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur yn Awstralia yn 2018, gan wella ar yr efydd enillodd e yn Glasgow yn 2014.

Tra bod y pyllau ar gau yn ystod y cyfnod clo, bu Daniel yn ymarfer nofio ym Mae Abertawe. Wrth ei waith bob dydd, mae'n peintio ac addurno ar y cyd â'i dad.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

'Dyw hi ddim yn anarferol i chwaraewyr wneud datganiad am eu ffydd,' medd Lloyd Thomas

Yn ôl Christians in Sport, elusen sy'n gweithio gydag athletwyr elît Cristnogol, dyw hi ddim yn anarferol i athletwyr ar y lefel uchaf wneud datganiad am eu ffydd.

Dywedodd Lloyd Thomas, sy'n gweithio gydag athletwyr elît yng Ngorseinon, beth sy'n anarferol yw bod Daniel Jervis wedi gwneud hynny yn llygad y byd.

"Sai'n siŵr bod e'n anarferol a bod yn onest," dywedodd, "Unwaith bod gan rywun gred a dealltwriaeth a sicrwydd yn eu perthynas â Duw fi'n credu yn naturiol mae'r newyddion da yna yn mynd i orlifo mas.

"Cafodd Daniel gyfle i fod yn agored am ei ffydd yn llygad y cyfryngau ond am bob un Daniel falle bod yna athletwyr eraill ni ddim yn gweld yn rhannu gyda chyd-athletwyr neu hyfforddwyr, teulu a ffrindiau. Dwi'n credu bo fe'n syndod faint o sgyrsiau sy'n mynd ymlaen lle mae pobl yn datgan eu ffydd."

Athletwyr Cristnogol amlwg

  • Usain Bolt - mae dyn cyflyma'r byd yn aml yn cael ei weld yn gwneud arwydd y groes ac yn pwyntio i'r nen cyn rhedeg ras;

  • Daniel Sturridge - Ar ôl ennill gwobr Chwaraewr Uwch Gynghrair y mis fe bostiodd y pêl-droediwr neges ar twitter yn dweud "Rwy'n gwneud popeth drwy Grist sydd yn fy nghryfhau i";

  • Lewis Hamilton - mae gan y gyrrwr rasio sawl tatŵ yn proffesu ei ffydd;

  • Emyr Lewis - ar ôl ennill 41 cap dros ei wlad, mae'r chwaraewr rygbi yn dweud bod ei ffydd wedi'i helpu i ddelio â'r newid byd wrth ymddeol o'r gamp.

Fel un sydd hefyd yn aelod brwd o gapel Sardis yn Resolfen, mae Ffion yn dweud nad oedd datganiad ei chefnder yn syndod iddi hi.

"O'n i'n gwybod sut mor fawr yw Duw iddo fe. Mae Daniel wedi bod yn aelod o'r capel ers iddo fe gael ei eni. Mae'r teulu yn rhan enfawr o'r capel. Mae'r capel wedi gweddïo amdano fe bob amser mae'n cymryd rhan mewn ras, neu yn mynd i wlad arall.

"Ni'n gweddïo drosto fe o'r pulpud. Mae'n cael impact arno fe a'r pentref hefyd."

Mae'r pentref yn bwriadu hebrwng Daniel mewn i Resolfen pan fydd e'n dod adre, a phawb ar eu stepen drws yn barod i'w longyfarch.

"Mae pawb o'r pentref yn mynd i ddod mas i'r stryd i'w groesawu e - a bydd e'n cael ei yrru mewn i Resolfen. Bydd pawb yn ei longyfarch e ar y stryd. Bydd pawb yn dod mas - bydd e'n ddigwyddiad mawr!

"Mae'r gefnogaeth nawr mor fawr tu ôl iddo fe. Fi'n credu bo fe'n mynd i smasho y gemau Olympaidd nesaf!"

Mwy ar Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru ddydd Sul am 12.30.

Pynciau cysylltiedig