Lle fyddai Cymru yn nhabl medalau Tokyo 2020?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lauren Price, Calum Jarvis, Lauren Williams, Leah Wilkinson a Sarah JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Dros y dair wythnos ddiwethaf, mae Tokyo wedi bod yn gartref i 27 o athletwyr o Gymru, 19 o'r rheiny yn cymryd rhan yn eu Gemau Olympaidd cyntaf.

Nôl yn 2016 yn Rio de Janeiro, llwyddodd athletwyr Cymru i gasglu 11 medal - pedair ohonyn nhw yn rhai aur. Eleni, mae'r Cymry wedi cipio wyth medal; tair aur, tair arian a dwy efydd.

Mae hyn yn golygu pe byddai Cymru yn cystadlu fel gwlad ar ei phen ei hun, bydden ni wedi gorffen yn y 26ain safle yn nhabl y medalau - yn gyfartal â Croatia, ac uwchben gwledydd fel Gwlad Belg ac Iran.

(Wrth gwrs, mae rhai o'r enillwyr yn rhan o dîm gydag aelodau o weddill Prydain... ond beth am anghofio am hynny am eiliad?!)

Safle Cymru yn nhabl medalau Tokyo 2020. .  .

AUR

Lauren Price - Bocsio pwysau canol

Ffynhonnell y llun, LUIS ROBAYO
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Price

Enillodd Price fedal olaf Cymru yn y gemau ar ôl curo Li Qian yn ffeinal y bocsio pwysau canol.

Dywedodd Price, 27 bod y fedal aur er cof am ei thad-cu, a fu farw ym mis Tachwedd 2020, a'i mam-gu. Nhw fagodd Lauren ers ei bod hi'n dri diwrnod oed.

Mae Lauren Price wedi cynrychioli Cymru ar y cae pêl-droed 52 o weithiau ac yn bencampwraig byd cicio bocsio. Nawr mae ganddi fedal aur i ychwanegu at ei llwyddiannau eraill.

Hi yw'r trydydd person o Gymru i ennill medal aur Olympaidd mewn bocsio ond y ferch gyntaf i wneud hynny.

Matt Richards a Calum Jarvis - Nofio 4x200m ras gyfnewid dull rhydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Matt Richards, ail o'r dde, gyda gweddill y tîm buddugol ar y podiwm - Tom Dean, James Guy a Duncan Scott

Enillodd y ddau yma eu medalau aur Olympaidd cyntaf yn Tokyo, a nhw oedd y Cymry cyntaf i ennill medalau yn y pwll i Dîm GB ers 1912.

18 mlwydd oed yw'r Cymro Matt Richards. Oherwydd cyfyngiadau Covid y llynedd, fe brynodd ei rieni bwll nofio iddo er mwyn iddo allu parhau i ymarfer gan anelu i fod yn y tîm Olympaidd.

Ffynhonnell y llun, Karl Bridgeman
Disgrifiad o’r llun,

Calum Jarvis gyda'i fedal aur mewn digwyddiad yn Llundain ar ôl i'r tîm ddychwelyd o Tokyo

Er na nofiodd Calum Jarvis yn y rownd derfynol, fe dderbyniodd fedal gan ei fod wedi nofio mewn rhagras yn gynt yn y gystadleuaeth fel eilydd. Fe dderbyniodd ei fedal aur oddi ar y podiwm ar ôl y seremoni.

Hannah Mills - Hwylio dosbarth 470

Ffynhonnell y llun, Clive Mason
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Mills

Hannah Mills yw'r hwyliwr benywaidd mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau Olympaidd ar ôl iddi hi ac Eilidh McIntyre ennill aur yn y ras hwylio dosbarth 470 yn Tokyo 2020.

Dyma oedd yr ail dro yn olynol i Mills gipio aur yn y dosbarth yma, ar ôl camu i dop y podiwm yn Rio 2016 a hawlio'r fedal aur yn Llundain 2012.

Dyma yw seithfed medal aur Mills a 17fed medal dros ei gyrfa.

ARIAN

Lauren Williams - Taekwondo o dan 67kg

Ffynhonnell y llun, Maja Hitij
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Williams

Hon oedd medal gyntaf y Cymry yn Tokyo.

Yn 13 oed, gwyliodd Lauren Williams Gymraes arall, Jade Jones yn ennill medal aur mewn taekwondo yn Llundain 2012 o garafán ei theulu.

Naw mlynedd yn ddiweddarach, roedd hithau'n cystadlu yn y taekwondo o dan 67kg.

Collodd hi y ffeinal yn erbyn Matea Jelic o Croatia o 25 pwynt i 22. Roedd hi'n gêm agos iawn gyda Williams ar y blaen gyda 14 eiliad ar ôl.

Yn ddim ond yn 22 mlwydd oed, does dim amheuaeth byddwn ni'n gweld mwy o'r ferch yma o'r Coed Duon, Caerffili.

Tom Barras - Rhwyfo pedairochrog

Ffynhonnell y llun, Naomi Baker
Disgrifiad o’r llun,

Tom Barras, ail o'r dde, gyda gweddill y tîm a enillodd y fedal arian - Jack Beaumont, Angus Groom a Harry Leask

Aeth Tom Barras i Brifysgol Caerdydd a bod yn gymwys i gynrychioli Cymru drwy fod yn fyfyriwr yn y wlad, ond mae wedi bod yn rhwyfwr ers ei fod yn 11 oed.

Collodd Tîm GB safle ar dop y podiwm a gorfod setlo am arian i'r Iseldiroedd, a dorrodd record y byd wrth gipio'r aur.

Elinor Barker - Seiclo tîm

Ffynhonnell y llun, Karl Bridgeman
Disgrifiad o’r llun,

Elinor Barker

Ar ôl ennill pum pencampwriaeth byd cyn dechrau yn Tokyo, roedd Barker wedi profi ei hun fel un o seiclwyr trac gorau'r byd.

Enillodd hi'r fedal arian yn y gemau eleni i ychwanegu at ei medal aur o gemau Rio 2016. Fel, Calum Jarvis, roedd Barker wedi cymryd rhan mewn rhagras yn gynharach yn y gystadleuaeth.

EFYDD

Josh Bugajski ac Ollie Wynne-Griffiths - Rhwyfo wyth

Ffynhonnell y llun, Justin Setterfield
Disgrifiad o’r llun,

Ollie Wynne-Griffiths, trydydd o'r chwith, a Josh Bugajski, dde eithaf, gyda gweddill y tîm, gan gynnwys y llywiwr

Tîm GB oedd y tîm mwyaf llwyddiannus mewn rhwyfo yn Beijing 2008, Llundain 2012 a Rio 2016. Ond er y buddsoddiad o £24.66 miliwn gan UK Sport ar gyfer Tokyo 2020, dim ond dwy fedal rwyfo gafodd eu hennill gan y tîm eleni - un arian ac un efydd.

Roedd Josh Bugajski yn fyfyriwr yng Nghaerdydd pan ddechreuodd rwyfo. Ddegawd yn ddiweddarach, mae wedi ennill medal efydd yn Tokyo.

Roedd gohirio'r gemau o 2020 i 2021 yn newyddion drwg i rai, ond yn fendith i Bugajski; byddai wedi methu cymryd rhan yn gemau flwyddyn yn ôl oherwydd anaf i'r ysgwydd.

Dechreuodd Ollie Wynne-Griffiths rwyfo yn y brifysgol hefyd, wrth gadw'n ffit pan roedd y tymor rygbi yn dod i ben bob haf. Roedd ennill efydd yn Tokyo nid yn unig yn llwyddiant personol, roedd hefyd yn creu hanes deuluol.

89 mlynedd yn gynt, rhwyfodd ei hen-daid, Harold Rickett, yn yr un ras - y rhwyfo wyth. Gorffennodd yn bedwerydd yn y ras, felly i Wynne-Griffiths roedd gorffen gyda medal efydd yn golygu llawer iddo, meddai.

"Ti'n byw dy freuddwydion ond hefyd yn byw breuddwydion dy deulu, mae hyn wedi bod yn sbesial iawn."

Sarah Jones a Leah Wilkinson - Hoci

Ffynhonnell y llun, Alexander Hassenstein
Disgrifiad o’r llun,

Leah Wilkinson a Sarah Jones

Curodd Tîm GB India yn y gêm trydydd safle i hawlio'r fedal efydd. Roedd dwy Gymraes yn rhan o'r tîm, Sarah Jones a Leah Wilkinson.

Cafodd Jones ei geni yng Nghaerdydd ac wedi chwarae i dîm hoci Caerdydd a Reading, ond hefyd wedi cynrychioli ei gwlad 96 o weithiau.

Leah Wilkinson yw un o enwau mwyaf chwaraeon Cymru. Dechreuodd chwarae i dîm hoci Cymru yn 2004. Fe gymerodd hi'r dyletswydd o gapteinio ei gwlad yn 2018, ond yn 2019 hi oedd y person nid yn unig â'r nifer fwyaf o gapiau yn hoci Cymru, ond y person sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau dros Gymru mewn unrhyw gamp. Erbyn heddiw, mae ganddi 169 cap, ac mae hi'n dal i gyfri.

Roedd Tokyo 2020 yn Gemau Olympaidd llwyddiannus i Gymru, felly. Ymlaen i Paris 2024!

Pynciau cysylltiedig