'Mwy o straen ar ambiwlansys nawr nag ar frig y pandemig'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Diwrnod yng ngwaith gwasanaeth ambiwlans y gogledd

Mae staff y gwasanaeth ambiwlans yng ngogledd Cymru yn dweud eu bod nhw'n gweithio dan "bwysau aruthrol" ac yn wynebu mwy o straen nawr nag ar frig y pandemig.

Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio mae nifer yn dweud mai'r haf hwn yw'r cyfnod prysuraf maen nhw erioed wedi'i wynebu.

Mae eraill yn rhwystredig ac wedi digalonni am na fedran nhw ymateb yn gyflym i alwadau newydd, a hynny am eu bod yn gorfod aros am gyfnodau hir tu allan i unedau brys ysbytai.

Yn ôl un parafeddyg profiadol mae'r sefyllfa yn "dorcalonnus".

"Dyma beth yw'n gwaith ni rŵan - aros y tu allan i ysbytai," meddai Osian Roberts.

"Di o erioed 'di bod fel hyn o'r blaen. Roedden ni'n arfer cyrraedd efo rhywun oedd yn sâl, mynd â nhw yn syth mewn yna roedden ni syth allan i ymateb i'r alwad nesaf."

Chwe awr am ambiwlans

Dros nos fe wnaeth mam 90 oed y naturiaethwr Iolo Williams ddisgyn o'i gwely yn Y Felinheli.

Er i'w chwaer alw am ambiwlans cyn 07:00 fore Mercher, roedd hi wedi 13:00 - dros chwe awr yn ddiweddarach - ar yr ambiwlans yn cyrraedd.

Yn siarad gyda'r Post Prynhawn, dywedodd Mr Williams ei fod yn ddig gyda gwleidyddion am effaith y mae diffyg cyllido ar y gwasanaeth iechyd yn ei gael ar lawr gwlad.

"Dwi'n grac, ond dim efo bois yr ambiwlans. Chwarae teg, dim eu bai nhw ydy o eu bod nhw'n cael eu tynnu yma ac acw i bob man," meddai.

"Dwi'n grac efo llywodraeth ar ôl llywodraeth yn addo pob math o bethau, ond yn cymryd cefnogaeth ac arian allan o'r gwasanaeth iechyd ar hyd a lled y wlad.

"Dwi'n teimlo dros fois yr ambiwlans, y doctoriaid a'r nyrsys - mae ganddyn nhw job anodd ofnadwy.

"Ond pan 'da chi'n gweld eich mam yn diodda' am chwe awr fel'na, mae o'n eich gwneud chi'n grac 'efo'r gwleidyddion."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Osian Roberts bod y sefyllfa bresennol yn "dorcalonnus"

Roedd Osian Roberts yn siarad gyda BBC Cymru wedi iddo dreulio mwyafrif ei shifft 12 awr, nid ar y lôn yn ymateb i alwadau, ond yn eistedd yng nghefn ei ambiwlans y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Fe gyrhaeddodd yr ysbyty am y tro cyntaf am 09:30, dwy awr wedi i'w shifft ddechrau yn Llandudno. Daeth â menyw yn ei 90au gafodd anaf difrifol i'w phenelin ar ôl cwympo mewn cartref nyrsio.

Er bod y claf, sydd â dementia, wedi cael prawf gwaed ac ECG gan staff yr ysbyty rhaid iddi aros yng ngofal Mr Roberts nes bod 'na wely neu droli yn rhydd y tu mewn.

"Mae'r lady yn dechrau bod yn anghyfforddus, mae'n anodd iddi," meddai. "Ond un allan, un i mewn yw hi ar hyn o bryd."

Yn y pendraw bu'n rhaid iddi aros am dair awr.

440 o alwadau

Erbyn canol y prynhawn ac ail ymweliad Mr Roberts â'r ysbyty mae'r sefyllfa wedi gwaethygu. Mae o leiaf wyth ambiwlans yn disgwyl tu allan i'r uned frys ac y tro hwn mae'n gofalu am ŵr yn ei 70au wnaeth gwympo adref.

Mae Mr Roberts yn gwybod yn iawn os fydd ambiwlans arall yn cyrraedd yma gyda chlaf sy'n cael ei ystyried yn achos mwy difrifol fe fydd y claf y mae e'n gyfrifol amdano yn symud 'nôl yn y ciw.

Yn y pendraw mae'r claf yn cael ei drosglwyddo i ofal yr ysbyty am 18:50, ychydig cyn diwedd shifft Mr Roberts. Ond mae hyn yn golygu fod y criw ond wedi ymateb i dair alwad ers dechrau'r shifft am 07:30.

Mae hynny er bod y gwasanaeth wedi derbyn 440 o alwadau am ambiwlans yn ystod y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n dorcalonnus braidd... ac mae rhai yn crio ar ôl shifft," medd Ceri Roberts o'r ganolfan reoli

Mae ceisio ymateb i'r galw pan nad oes ambiwlansys ar gael yn creu pwysau mawr ar staff sy'n gweithio yng nghanolfan reoli'r gwasanaeth ambiwlans yn y gogledd yn Llanfairfechan, yn enwedig gan fod staff yn dweud fod nifer y galwadau maen nhw'n eu derbyn yn uwch nag erioed yr haf hwn.

"Mae'n lot fwy prysur na'r arfer," meddai Ceri Roberts, y rheolwraig ar ddyletswydd. "Dwi wedi bod yn y gwasanaeth am 20 mlynedd - dwi ddim wedi gweld haf fatha hi. Mae Awst wastad yn brysur - ond prysurach na'r arfer nawr.

"Ma' 24 o alwadau ar hyn o bryd yn dal i aros am ambiwlansys yn y gymuned, yr alwad amber 2 hiraf wedi bod yn disgwyl am dros bum awr a hanner."

Ond mae Ms Roberts yn cyfaddef ar adegau y gall cleifion fod yn aros yn hirach, ac mae hynny'n digalonni staff.

"Ma' staff yn reit isel yn eu gwaith. Ma' nhw'n gweithio'n galed o fore gwyn tan nos. Weithiau maen nhw'n dod mewn am eu shifft nesaf a sbïo ar yr un claf yn dal i fod yn y stac o alwadau ers iddyn nhw fynd adre' neithiwr.

"Mae'n dorcalonnus braidd... ac mae rhai yn crio ar ôl shifft."

Mae nifer o resymau am y pwysau mawr yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd.

Mae'r boblogaeth yn gymharol oedrannus ac o bosib mae pobl yn ystod cyfnod y pandemig wedi bod yn gyndyn i fynd i weld am eu symptomau - sy'n cynyddu'r galw nawr.

Gyda chyfyngiadau Covid wedi eu llacio mae mwy o bobl yn mentro allan ac yn cymdeithasu, a gyda mwy o bobl yn dewis peidio mynd dramor eleni mae gwestai, meysydd pebyll ac atyniadau gogledd Cymru yn brysur tu hwnt.

Ond mae staff sy'n ateb galwadau brys yn annog pobl i feddwl cyn ffonio 999, ac yn hytrach defnyddio gwasanaethau eraill - 111 i wirio symptomau, meddygon teulu, fferyllwyr, unedau mân anafiadau ac ysbytai bach.

Ymddiheuriad

Mae pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens wedi ymddiheuro i'r rhai sydd wedi gorfod disgwyl am ambiwlans, ond yn dweud bod y gwasanaeth mewn cyfnod digynsail o brysur a'u bod yn gweithio'n galed i ddelio gyda'r sefyllfa.

"Mae ein gwasanaethau meddyginiaeth frys a 999 wedi gweld cynnydd o ryw 200 o bobl yn y 18 mis diwethaf, ac ry'n ni'n recriwtio a hyfforddi mwy drwy weddill y flwyddyn hon, sy'n golygu parafeddygon ar y strydoedd," meddai.

"Mae nifer o gynlluniau gennym hefyd i reoli beth yr ydym yn disgwyl fydd yn aeaf prysur iawn ac anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jason Killens bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn recriwtio cannoedd ar hyn o bryd

Yn ddiweddar fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi £25m tuag at wella canlyniadau gofal brys ac argyfwng, ond mae'n cydnabod bod oedi i drosglwyddo cleifion yn broblem i gleifion a staff.

Meddai datganiad: "Mae amseroedd trosglwyddo cleifion yn parhau yn her sylweddol ar safleoedd ar draws Cymru, ac yn gallu effeithio nid yn unig ar brofiad cleifion a staff ond ar argaeledd adnoddau ambiwlans i ymateb i alwadau brys eraill yn y gymuned.

"Mae ystod o ffactorau lleol ac ehangach yn cyfrannu at oedi o'r fath, gan gynnwys llai o le mewn adrannau brys ysbytai, mwy o alw am y gwasanaeth a phwysau mewn rhannau eraill o'r system."

'Y system wedi torri'

Dywedodd Jo Whitehead, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, eu bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid lleol i fynd i'r afael â'r broblem.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i gefnogi cleifion sydd mewn gwelyau ysbyty ar hyn o bryd, sy'n ddigon iach yn feddygol i fynd adref, ond sydd angen cefnogaeth ychwanegol i ganiatáu iddyn nhw wneud hynny'n ddiogel," meddai.

"Bydd hyn yn gwella llif pobl yn ein hysbytai gan ein cefnogi i drosglwyddo cleifion o ambiwlansys yn gyflymach."

Ond mae staff rheng flaen y gwasanaeth ambiwlans, fel Osian Roberts yn poeni am y dyfodol, ac er ei fod yn angerddol am ei swydd fel parafeddyg, mae'n cydnabod nad treulio oriau maith tu fas i ysbytai oedd y swydd wnaeth e hyfforddi ar ei chyfer 32 mlynedd yn ôl.

"Dwi'n meddwl bod y system wedi torri - mae'n rhaid i bethau newid. Ma' rhai pobl wedi cael digon."