Gwefan Comisiynydd 'nôl yn fyw wyth mis ar ôl hacio

  • Cyhoeddwyd
GwefanFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Aeth gwefan Comisiynydd y Gymraeg yn ôl yn fyw brynhawn Iau

Mae gwefan Comisiynydd y Gymraeg wedi cael ei hadfer, ychydig dros wyth mis wedi iddi gael ei hacio.

Cafodd staff eu cloi o'u holl systemau ym mis Rhagfyr pan lwyddodd hacwyr i gymryd rheolaeth o wefan y Comisiynydd ac amgryptio data.

Mewn llythyr mewnol gafodd ei ddanfon ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr hacwyr wedi bygwth cyhoeddi data personol os nad oedd arian yn cael ei dalu iddynt.

Dywedodd swyddfa'r Comisiynydd ddydd Iau nad oedd arian wedi ei dalu, ac nad oedd tystiolaeth bod data wedi ei ryddhau.

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn "ddiolchgar am y ddealltwriaeth a ddangoswyd i ni wrth inni ddelio â sgil-effeithiau dinistriol yr ymosodiad".

'Wedi derbyn cyngor' at y dyfodol

Doedd y wefan ddim ar gael am wyth mis, ond cafodd y cyhoedd wybod ei bod yn dal yn bosib i gysylltu gyda'r swyddfa dros e-bost, cyfryngau cymdeithasol, ffôn neu'r post.

Roedden nhw wedi annog unigolion a sefydliadau i gysylltu â nhw os oedd ganddyn nhw bryderon yn ymwneud â gwybodaeth bersonol ar eu systemau yn sgil yr ymosodiad.

Dywedodd y swyddfa fod TARIAN - Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol gwasanaethau Heddlu De Cymru - yn parhau i ymchwilio i'r ymosodiad seibr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd swyddfa'r Comisiynydd eu bod wedi derbyn cyngor ar sut i "sicrhau bod ein systemau mor ddiogel â phosibl yn y dyfodol"

"Roedd yr ymosodiad seibr a ddioddefodd y Comisiynydd yn un difrifol, ac fe effeithiodd ar ein holl systemau," meddai swyddfa'r Comisiynydd.

"Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio'n ddiwyd dros y misoedd diwethaf ar adeiladu gwefan newydd.

"Mae'r gwaith hwn wedi digwydd fel rhan o brosiect ehangach i sefydlu amgylchedd TG newydd ar gyfer y sefydliad, adfer gwybodaeth a dogfennau, a chreu systemau o'r newydd."

Ychwanegodd bod y swyddfa yn "wyliadwrus o unrhyw fygythiadau seibr", a'u bod "wedi derbyn cyngor a chefnogaeth arbenigol gan Uned TARIAN ac eraill ar sut i sicrhau bod ein systemau mor ddiogel â phosibl yn y dyfodol".

Dywedodd swyddfa'r Comisiynydd fod yr ymosodiad wedi achosi oedi i "rai darnau o waith" ond nad oes unrhyw ymchwiliadau neu adroddiadau wedi'u hatal yn llwyr.

"Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol cyn ddiwedd y mis sy'n ymhelaethu ar sut aethom ati i flaenoriaethu gwaith mewn ymateb i'r ymosodiad, a pharhau i weithredu er budd siaradwyr Cymraeg," meddai.

Ychwanegodd swyddfa'r Comisiynydd bod rhai problemau technegol wrth lansio'r wefan newydd ddydd Iau.