Dyn yn pledio'n euog i dreisio menyw ym Mharc Bute Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi pledio'n euog i dreisio menyw ym Mharc Bute yng Nghaerdydd fis diwethaf.
Yn Llys y Goron Caerdydd fore Llun fe wnaeth Tyler Higgins o ardal Cathays gyfaddef dau achos o dreisio yn dilyn y digwyddiad yn oriau mân y bore ar 15 Gorffennaf.
Roedd fideo camera cylch cyfyng wedi cael ei gyhoeddi yn dilyn y digwyddiad, ac wedi hynny dywedodd yr heddlu eu bod wedi arestio Higgins.
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa nes iddo gael ei ddedfrydu ar 2 Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2021