Morgannwg drwodd i ffeinal y Cwpan Undydd ar ôl trechu Essex

  • Cyhoeddwyd
Joe CookeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Joe Cooke serennu tra'n bowlio a batio, gan gymryd pum wiced a sgorio 66 o rediadau

Mae Morgannwg drwodd i rownd derfynol y Cwpan Undydd wedi iddyn nhw drechu Essex yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Fe wnaeth y Cymry ddewis bowlio gyntaf, gyda'r ymwelwyr yn cyrraedd cyfanswm o 289 cyn colli eu wiced olaf gyda dwy bêl yn weddill o'u 50 pelawd.

Joe Cooke oedd y seren i Forgannwg ym matiad Essex wrth iddo gymryd pum wiced, gydag Alastair Cook yn sgorio'r nifer fwyaf o rediadau i'r ymwelwyr gyda sgôr o 68.

Llwyddodd Hamish Rutherford (67) a Nick Selman (59) i roi sylfaen cadarn i Forgannwg yn eu hymateb nhw, cyn i Tom Cullen (41 heb fod allan) a Cooke (66 heb fod allan) eu llywio heibio i sgôr Essex gyda phum wiced, a dwy belawd, yn weddill.

Bydd Morgannwg yn herio un ai Durham neu Surrey yn ffeinal y gystadleuaeth yn Trent Bridge yn Nottingham ddydd Iau.

Pynciau cysylltiedig