Afghanistan: 'Angen gweithredu nawr' ar ailgartrefu pobl

  • Cyhoeddwyd
Pobl yn disgwyl i adael Afghanistan o Faes Awyr Kabul ar 18 AwstFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn disgwyl i adael Afghanistan o Faes Awyr Kabul ar 18 Awst

Mae 'na alw ar i Lywodraeth y DU weithredu'n gyflym i roi lloches i bobl sy'n ffoi o Afghanistan.

Daw hyn ar ôl i'r Taliban gymryd rheolaeth o'r wlad, gan gynnwys y brifddinas Kabul.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi amlinellu cynlluniau i ailgartrefu 20,000 o ffoaduriaid o Afghanistan.

Bydd hyd at 5,000 o bobl yn cael symud i Brydain ym mlwyddyn gyntaf y cynllun - gyda'r unigolion fwyaf bregus yn cael eu blaenoriaethu.

Mae Aelodau Seneddol wedi dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ddydd Mercher i drafod y sefyllfa.

Yn y cyfamser, yn Nhŷ'r Arglwyddi, mae'r Arglwydd Peter Hain wedi dweud y bydd yn rhaid trafod gyda'r Taliban a chynnig cymhellion economaidd iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Boris Johnson ei gyhuddo mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher o fethu pobl Afghanistan a lluoedd Prydain

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi croesawu a derbyn cynnig gan Lywodraeth y DU i gynnal cyfarfod rhwng pedair gwlad y DU.

Bydd y cyfarfod yn trafod sut y gall pob rhan o'r DU gefnogi pobl o Afghanistan sydd naill ai wedi cefnogi'r Lluoedd Arfog neu sydd ag "ofn gadarn o erledigaeth yn eu mamwlad", meddai Llywodraeth Cymru.

Mae mwyafrif o gynghorau Cymru eisoes wedi dweud y byddan nhw'n darparu cartrefi i ffoaduriaid sy'n dianc o'r gwrthdaro.

'Angen sortio nawr'

Ond dywed Nia Griffith, llefarydd Llafur ar Gymru, bod yn rhaid gweithredu "nawr" yn hytrach na dros gyfnod o flynyddoedd.

"Bydd lot o gwestiynau [i Boris Johnson] ond y flaenoriaeth wrth gwrs yw cael pobl mas o'r wlad," meddai Aelod Seneddol Llanelli wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

Ffynhonnell y llun, Anadolu Agency
Disgrifiad o’r llun,

Llefarydd y Taliban, Zabihullah Mujahid, yn cynnal cynhadledd i'r wasg yn Kabul ddydd Mawrth

"Beth sydd eisiau nawr yw lot mwy o bwysau ar y llywodraeth [y DU] iddyn nhw wneud mwy a gwneud hyn yn fwy cyflym.

"Dim dros flynyddoedd ma' angen derbyn pobl, mae hyn yn broblem sydd angen sortio nawr.

"Bydd ffoaduriaid sydd yn mynd i wledydd drws nesa fel Pakistan angen help, felly mae'n rhaid neud yn siŵr fod yr help yna.

"Beth sydd eisiau nawr yw bod ni'n sicrhau help i bobl Afghanistan.

"Heb fod yr alwad yna i fynd nôl i'r Senedd, dwi ddim yn siŵr os fyddai'r llywodraeth wedi dechrau gwneud rhywbeth."

Yn y cyfamser mae'r Prif Weinidog Boris Johnson a'r Arlywydd Biden wedi cytuno i gynnal cyfarfod o arweinyddion yr G7 yr wythnos nesaf.

Mae'r UDA yn dweud eu bod nhw'n disgwyl i'r Taliban gadw at eu haddewid i barchu hawliau dynol.

Disgrifiad,

Ar Dros Frecwast, dywedodd Liz Saville Roberts bod angen "rŵan hyn" i helpu pobl o Afghanistan

"Mae'r cynnydd mewn niferoedd o ffoaduriaid yn rhywbeth i'w groesawu, ond yr hyn sydd yn pryderu rhywun ydy'r cyfnod o amser dros blynyddoedd," meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts.

"Dydy ni ddim yn gwybod y gwir angen ar hyn o bryd, ond 'da ni'n gwybod fod yr angen yna.

"O siarad gyda chynrychiolwyr o'r llywodraeth, mae'r adnoddau sydd ar gael i bobl, mae 'na gwestiynau o faint ni'n gweithio gyda gwledydd cyfagos megis Pakistan a Qatar i gael pobl allan.

"Mae'n rhaid i ni gael nhw allan mewn mater o frys.

"'Da ni ddim yn gwybod faint mae'r Unol Daleithiau wedi cytuno efo'r Taliban i gadw maes awyr Kabul yn agored.

"O dan yr amgylchiadau, dylai llawer mwy o baratoadau wedi cael eu gwneud ymlaen llaw."

'Mae'n rhaid trafod gyda'r Taliban'

Yn y cyfamser, mae'r Arglwydd Peter Hain wedi dweud bod yn rhaid i wledydd y Gorllewin drafod gyda'r Taliban a pheidio â thrin llywodraethwyr newydd Afghanistan fel "parïaid" (pariahs).

Dywedodd cyn-AS Castell-nedd, a wasanaethodd fel gweinidog swyddfa dramor o dan Tony Blair rhwng 1999 a 2001, y dylid cynnig cymhellion economaidd mewn unrhyw drafodaethau.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Mercher, dywedodd fod profiad yn llefydd fel Gogledd Iwerddon yn dangos y "byddwch yn methu os ydych yn trin grwpiau fel y Taliban fel parïaid".

"Rhaid i chi drafod gyda nhw, gan gynnig cymhellion economaidd a rhwystrau caled i barchu normau rhyngwladol a hawliau dynol," meddai.

"Mae strategaeth gostus 'adeiladu cenedl, adeiladu democratiaeth' y Gorllewin wedi methu'n ofnadwy."

Pynciau cysylltiedig