Cyhuddo dyn o geisio ysgogi casineb hiliol

  • Cyhoeddwyd
James AllchurchFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald

Mae dyn o Sir Benfro wedi ymddangos o flaen Llys yr Ynadon yn Hwlffordd wedi'i gyhuddo o ddosbarthu recordiau gyda'r bwriad o geisio ysgogi casineb ar sail hil.

Cafodd James Allchurch, 49 ei arestio yn Rhagfyr 2019 ac mae wedi ei gyhuddo o 15 trosedd yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus.

Yn gwisgo mwgwd, feisar ac ôfrol dywedodd Mr Allchurch wrth y llys ei fod yn dymuno cael ei alw'n "Sven Longshanks", a dywedodd mai "gwaith fy mywyd sydd ar brawf yma heddiw".

Plediodd yn ddieuog i bob cyhuddiad a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe fis nesaf.

Pynciau cysylltiedig