Apêl goroeswr sepsis am ofal addas i oedolion ifanc

  • Cyhoeddwyd
Hollie Smith
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Hollie fisoedd yn yr ysbyty a bu bron iddi farw wedi i haint yr aren arwain at sepsis ac ataliad ar y galon

Mae menyw ifanc oedd ar fin cael prawf gyda thîm pêl-droed Cymru pan gafodd ei tharo'n ddifrifol wael gyda sepsis yn galw am well ofal ar gyfer pobl ifanc.

Roedd Hollie Smith, 19, o Gaerdydd, yn paratoi ar gyfer y prawf y llynedd pan gafodd haint ar yr aren.

Arweiniodd hynny at sepsis ac yna ataliad ar y galon, gan olygu bod angen gofal arni ddydd a nos.

Mae'n dweud bod angen mwy o adnoddau ar gyfer pobl ifanc sy'n cael sepsis neu'n dysgu byw gydag an

"Pan wnes i ddeffro wedi'r ataliad ar y galon, ro'n i wedi colli defnydd ochr dde'r corff," meddai. "Doeddwn i methu sefyll rhagor, eistedd, gwisgo fy hun, gofalu am fy hun nac ymolchi na mynd i'r tŷ bach."

"O feddwl 'mod i ar fin cael prawf gyda thîm pêl-droed merched Cymru cyn mynd i'r ysbyty, roedd y cyfan yn eitha' sioc."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hollie Smith yn bêl-droediwr addawol cyn ei thrafferthion iechyd

Ynghyd â brwydr i ddygymod yn feddyliol â newid mor sylweddol i'w bywyd, bu'n rhaid i Hollie gael misoedd o ffisiotherapi dwys a wnaeth adfer rhywfaint o'i gallu i symud.

Pan ddychwelodd adref o'r ysbyty ym mis Rhagfyr, roedd yna drefn newydd a chymorth dau ofalwr, bedwar gwaith y dydd, gyda hyd yn oed y gorchwylion mwyaf sylfaenol.

Daeth ergyd arall chwe wythnos yn ddiweddarach - cafodd sepsis am yr eildro. Effeithiodd y tro hwn ar ei harennau a'i hysgyfaint a lledu i'w hymennydd.

Cafodd ei rhoi mewn coma am dros bythefnos, a dywedwyd wrthi ei bod yn "ffodus iawn i oroesi".

Erbyn hyn roedd mewn gwely ysbyty yn yr ystafell fyw gyda bympars i'w hatal rhag niwed wrth gael ffitiau, teclyn codi, tîm o ofalwyr a chymysgedd ddyddiol o feddyginiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Hollie ei rhoi mewn coma ar ôl cael sepsis am yr eildro

"Fedra'i ddim gwneud y pethau mwya' sylfaenol tra'n gweld pobl eraill o'r un oedran yn mynd i'r brifysgol a gyrru a'r pethau dylai person ifanc normal fod yn ei wneud," meddai.

"Mae wedi bod yn eithaf erchyll - dim ond nawr mae'r peth yn dechrau wirioneddol fy nharo.

"Rwy'n ceisio bod yn bositif ond ar y foment mae'n eithaf anodd... mae popeth sydd angen digwydd yn dipyn arafach oherwydd y pandemig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hollie'n canolbwyntio ar y dyfodol ac yn ymgyrchu dros well adnoddau i bobl ifanc eraill

Mae'r cyn-bêl-droediwr nawr yn edrych tua'r dyfodol gan ystyried sut gall eraill elwa o'i phrofiad.

"Fy amcanion personol yw mynd i'r coleg ac ailsefyll fy arholiadau Safon Uwch fel cam i fynd i'r brifysgol ac astudio meddygaeth," meddai.

"Rwyf hefyd yn gobeithio dechrau ymgyrchu am well adnoddau ar gyfer pobl ifanc anabl.

"Mae'r posibilrwydd hirdymor o wella yn anffafriol. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio yn y dyfodol gallu eistedd gyda'r cymorth lleiaf posib, gallu hwpo fy hun mewn cadair olwyn a ffeindio camp newydd i roi cynnig arno."

Mae ei theulu'n gobeithio addasu eu cartref er mwyn rhoi gymaint o annibyniaeth i Hollie â phosib. Maen nhw hefyd yn ceisio codi arian ar gyfer ffisiotherapi preifat a diffibriliwr personol.

Ychwanegodd Hollie ei bod yn gobeithio cael gwyliau gyda gofalwyr "fel bod fy rhieni'n cael hoe hefyd".

Disgrifiad o’r llun,

Hollie Smith cyn ei salwch

Mae Hollie'n pwysleisio ei bod wedi cael gofal rhagorol. Dywed bod staff yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd "wedi bod ac yn parhau i fod yn rhyfeddol gyda mi a fy nheulu ac rwy'n ddyledus iddyn nhw am fy mywyd".

Ond mae'n galw am well adnoddau ar gyfer pobl ifanc sy'n cael sepsis neu'n dysgu byw gydag anabledd.

"Rwyf wedi cael gwybod fy mod yn cyrraedd y trothwy gofal preswyl," meddai. "Ond yr unig lefydd y gallwn ni fynd yw'r rhai sy'n gofalu am bobl oedrannus neu bobl ag anableddau dysgu a fyddai'r naill na'r llall yn cyfateb â fy anghenion i."

"Hefyd yn yr ysbyty mae yna ysbyty plant ond dim byd sy'n pontio ar gyfer oedolion ifanc. Roeddwn i ar ward gyda chleifion dementia a rhai pobl oedd bedair gwaith fy oedran.

"Rwyf jest eisiau i oedolion ifanc gael amgylchiadau a gweithgareddau mwy addas yn yr ysbyty. Hefyd, hyd yn oed ar ôl bod yn yr ysbyty mae llawer o'r gofal cymdeithasol a'r adnoddau'n fwyaf addas ar gyfer yr henoed ac rwyf jest yn teimlo bod angen i hynny newid."

Ymateb yr awdurdodau

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod "yn ymroddi i weithio gydag unigolion i ganfod y ffordd orau i ddiwallu eu hanghenion i sicrhau'r canlyniadau gorau".

"Er pob ymdrech i gynnig gwahanol fathau o adnoddau a gwasanaethau gofal fel bod pobl ifanc yn gallu byw'n annibynnol a chael y gefnogaeth angenrheidiol, rydym yn cydnabod, oherwydd demograffeg y ddinas, bod llawer o wasanaethau'n canolbwyntio ar yr henoed.

"Serch hynny, mae gwasanaethau gofal yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, ac er mwyn gweld sut gallwn ddarparu gwasanaethau safon uchel i bobl iau gydag anableddau yng Nghaerdydd, mae cynllun partneriaeth ar fin dechrau a fydd yn ein helpu i sicrhau gwelliannau sy'n ateb anghenion pawb sydd angen gofal yng Nghaerdydd orau.

"Byddwn yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ble mae gofal yn cael ei rannu rhwng y bwrdd a'r cyngor."

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd bod eu tîm profiad cleifion wedi cysylltu gyda Hollie i rannu ei phrofiad "gan gynnwys pa agweddau all wedi bod yn well".

Ychwanegodd bod cleifion ysbyty'n "cael eu rhoi mewn ward ble mae modd cael yr arbenigedd clinigol mwyaf addas ar gyfer eu hanghenion fel eu bod yn cael y gofal a'r driniaeth orau ar yr adeg gywir".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dylid penderfynu ar y lleoliad mwyaf addas o ran gofal cleifion ar sail unigol mewn ymgynghoriad gyda'r clinigwr sy'n gyfrifol am eu gofal.

"Rydym yn disgwyl i'r byrddau iechyd sicrhau bod dim llithro o ran safon unrhyw wasanaeth sy'n cael ei ddarparu, bod yna gyfathrebu parhau a phrofiad da i'r claf o ran trosglwyddo a phontio'r gofal o wasanaethau pediatreg i wasanaethau oedolion"