Lefelau unigrwydd ymysg pobl anabl yn 'argyfyngus'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

'Mae 'di bod yn anodd... mae popeth 'di stopio nawr'

Mae unigrwydd ymysg pobl anabl wedi cyrraedd "lefelau argyfyngus", yn ôl elusen anabledd Sense.

Mae ffigyrau yn dangos bod 61% o bobl anabl yn cyfaddef i deimlo'n unig iawn eleni.

Ymysg pobl ifanc anabl rhwng 16 a 24 oed, mae'n codi i 70%.

Yn ôl Mencap, sy'n cefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu, mae'r pandemig wedi gwaethygu problem oedd eisoes yn bodoli.

Mae gan Carwyn Daniel gyflwr Sbina Bifida, ond dydy hynny ddim yn amharu ar ei allu i fyw bywyd annibynnol.

Mae'n cael cymorth gofalwyr, ac wedi byw mewn tŷ ar ben ei hun yn Aberystwyth ers dros ugain mlynedd.

Dros y misoedd diwethaf, mae iechyd Carwyn wedi dirywio rhywfaint.

Ers 12 wythnos, mae wedi bod yn ei wely 24 awr o'r dydd.

Ond ers wythnos, mae wedi cael teclyn newydd, sy'n golygu ei fod yn gallu codi o'i wely am hanner awr pob dydd.

"Mae wedi bod yn anodd iawn," meddai. "O'n i'n arfer mynd i wylio chwaraeon, mynd i wrando ar gerddoriaeth a gweithio ar Radio Bronglais.

"Roeddwn i'n mynd i Ganolfan Padarn hefyd, ond mae popeth wedi stopio nawr."

"Mae 'na bendant cyfnodau lle dwi wedi teimlo'n unig. Sdim doubt, mae hynny wedi bod yn anodd i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nerys Daniel ei bod yn poeni am effaith y pandemig ar fywyd cymdeithasol Carwyn

Fe ddywedodd Nerys Daniel, chwaer Carwyn, ei bod yn "poeni" am ei brawd ar adegau.

"Mae'r annibyniaeth yn beth mawr, yn beth bach i chi a fi falle, ond maen nhw'n bethau mawr iddo fe.

"Mae Carwyn mor gymdeithasol, ma fe'n joio cwmni a bod ynghanol pobl. Mae'n joio codi bob dydd a chael pwrpas a routine i'w ddiwrnod.

"Mae'r routine yna wedi mynd mas trwy'r ffenest ers Covid ac mae Carwyn wedi gorfod ail-ystyried y ffordd mae'n byw mewn ffordd.

"Dwi'n poeni amdano fe, am ei feddwl e. Mae e lot fwy cymdeithasol na fi, a dwi'n poeni beth yw effaith colli hynny. Colli edrych ymlaen at rywbeth."

Pandemig yn achosi 'argyfwng iechyd meddwl'

Yn ôl yr elusen Sense, mae'r gwaith ymchwil yn brawf o'r "argyfwng iechyd meddwl" sy'n bodoli, yn enwedig ar ôl blwyddyn o bandemig.

Mae Sense yn galw "am weithredu ar frys, gan gynnwys cynyddu cefnogaeth iechyd meddwl, ac ehangu gwasanaethau pwrpasol er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd".

Sian Davies yw Rheolwr Strategol Rhaglenni Mencap Cymru.

"Ni'n tueddu i ganolbwyntio, o fewn gofal cymdeithasol, ar y pethau mwy functional. Ond ni'n gwybod bod cysylltiadau a ffrindiau mor, mor bwysig i bobl.

"Mae mor bwysig o ran iechyd yn gyffredinol, iechyd meddwl a hapusrwydd.

"Roedd y sefyllfa yn wael iawn ta beth, ond mae'r pandemig wedi gwaethygu pethau i bobl.

"Mae angen ailystyried beth yw ein cyfrifoldebau ni fel sector, fel cymdeithas, i gefnogi pobl i allu byw bywyd llawn."