Dyn 80 oed yn cerdded Cader Idris er cof am ei fab

  • Cyhoeddwyd
Tom Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Jones wedi bod yn codi arian at elusen Canser y Gwaed y DU ers hanner canrif bellach

Mae dyn o Gaerdydd wedi cerdded i un o gopaon uchaf Cymru ar ei ben-blwydd yn 80 oed er mwyn codi arian at elusen canser y gwaed.

Penderfynodd Tom Jones i gerdded i fyny mynydd Cader Idris ym Meirionnydd er cof am ei fab Hywel, a fu farw o lewcemia yn 10 oed.

Mae Mr Jones, cadeirydd elusen Canser y Gwaed y DU yng Nghaerdydd, wedi bod yn codi arian ar gyfer ymchwil i'r afiechyd ers hanner canrif.

Ond y math yma o ganser sy'n parhau i fod y mwyaf cyffredin ymhlith plant a phobl ifanc.

'Meddwl amdano bob dydd'

Dywedodd Mr Jones fod ei fab yn dair oed pan sylweddolodd ei fod yn cael ambell ddiwrnod o deimlo'n sâl.

"Roedd e bron bob wythnos yn cael diwrnod pan oedd e ond yn gorwedd ac yn gwneud ddim byd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tom Jones ei fod yn meddwl am ei fab, Hywel, bob dydd

Dim ond plentyn bach oedd Hywel pan gafodd ddiagnosis o lewcemia.

Roedd yn fyw am chwe blynedd a hanner ar ôl ei ddiagnosis, ond roedd llawer o'i amser wedi'i dreulio yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Bryd hynny roedd triniaeth yn ddwys iawn - fe ddioddefodd o lid yr ymennydd, methiant y galon a nifer o heintiau gwahanol tra yr oedd yn wael.

Dros 18 mis olaf ei fywyd cafodd ei dderbyn i'r ysbyty 26 o weithiau.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Hywel yn 10 mlwydd oed ar ôl brwydr â chanser y gwaed

Dywedodd Mr Jones fod ei fab yn "ddifrifol wael" yn y chwe mis olaf.

"A'th e'n ddall mewn eiliad, ac aeth e mewn i'r ysbyty ond roedd e wedi mynd yn anymwybodol... Fuodd e farw mewn rhyw wythnos ar ôl hynny," meddai.

"Rwy'n meddwl amdano bob dydd, rwy'n crio bob dydd."

Yn ôl elusen Canser y Gwaed y DU, dim ond 27% o blant fel Hywel a gafodd ddiagnosis lewcemia yn y 1970au oedd yn byw am 10 mlynedd neu fwy.

Ond yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae bellach yn 81%.

Mae cyfraddau goroesi ar gyfer canserau gwaed eraill fel lymffoma a myeloma hefyd wedi cynyddu'n sylweddol ers hynny.

'Cadw fi fynd'

Y datblygiadau hyn sy'n ysgogi Mr Jones i barhau gyda'i waith elusennol.

Disgrifiad o’r llun,

Cerddodd Tom Jones i gopa mynydd Cader Idris ar ei ben-blwydd yn 80 gyda chefnogaeth ei deulu

"Mae [bron i] 90% yn gwella ac mae hwnna yn cadw fi fynd - nid er mwyn y plant yn unig ond yr oedolion a phob un arall sy'n dioddef o ganser y gwaed," meddai.

Ychwanegodd na fyddai'r cynnydd yn y cyfraddau goroesi wedi digwydd heb yr holl waith ymchwil dros y blynyddoedd.

Dywedodd Dr Steve Knapper, sy'n helpu i ddatblygu triniaethau newydd arloesol trwy dreialon clinigol: "Heb yr ymdrechion codi arian hyn, sy'n ariannu treialon clinigol a datblygiadau o'r cyffuriau, ni fydden ni'n gallu gwneud unrhyw beth tebyg i'r gwaith rydyn ni'n ei wneud ar hyn o bryd."

Pynciau cysylltiedig