Covid: Galw am fwy o amddiffyniad i weithwyr siop

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gweithiwr siop yn siarad gyda cwsmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl USDAW, sy'n cynrychioli 380,000 o weithwyr siop ledled y DU, mae mwy na 90% o'u haelodau wedi cael eu cam-drin ar lafar yn ystod y pandemig

Roedd gweithiwr siop yn ei phumdegau yn poeni y byddai hi'n "marw o Covid" yn sgil camdriniaeth gan rai cwsmeriaid, yn cynnwys un a boerodd arni.

Dywedodd Tracey Davies o Bort Talbot bod ei hiselder wedi gwaethygu yn sgil camdriniaeth o'r fath yn ystod y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru ac undeb gweithwyr siopau wedi galw am fwy o amddiffyniad i'r rhai sy'n gweithio ym maes manwerthu, wrth i ddeddfau newydd i amddiffyn gweithwyr siopau ddod i rym yn Yr Alban ddydd Mawrth.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn rhoi darpariaeth plismona ychwanegol mewn cymunedau i geisio lleihau troseddau.

Disgrifiad,

Mae Ffion Verburg yn rhedeg Siop Llandeg yn Llandegfan ar Ynys Môn

Mae ymchwil gan USDAW, sy'n cynrychioli 380,000 o weithwyr siop ledled y DU, yn honni bod mwy na 90% o'u haelodau wedi profi camdriniaeth ar lafar yn ystod y pandemig.

Roedd mwy na tri chwarter ohonynt wedi cael eu bygwth, ac un ymhob saith wedi profi ymosodiad.

Ffynhonnell y llun, Tracey Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tracey Davies bod yr holl gamdriniaeth yn "flinedig"

Dywedodd Ms Davies bod ymddygiad cwsmeriaid "wedi gwella llawer" yn ei siop, ond mae'r camdriniaeth y mae hi wedi'i dderbyn trwy gydol y pandemig wedi achosi i'w hiselder waethygu.

Ychwanegodd ei bod yn cael ei cham-drin gan tua phump o bob 1,000 o bobl y mae hi'n delio gyda nhw mewn un diwrnod yn y siop.

"Roeddwn i'n gwneud fy swydd arferol pan ddaeth dyn i mewn a gofynnais iddo am ID, ond nid oedd ganddo un felly fe boerodd ar fy wyneb yng nghanol pandemig," meddai.

Dywedodd ei bod wedi golchi ei hun dro ar ôl tro, wedi i'r digwyddiad wneud iddi deimlo'n "ofnadwy o wael".

Mae Ms Davies yn galw ar bobl i "fod yn garedig" - "dyna'r cyfan rydw i'n ei ofyn, pe bai pawb yn garedig, ni fyddwn ni yn y llanast hwn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru eisiau dilyn esiampl Llywodraeth yr Alban a chyflwyno deddfau mwy llym i gyflawnwyr camdriniaeth a thrais tuag at staff siopau

Mae rhai staff siopau yn dweud eu bod wedi cael eu cam-drin gan gwsmeriaid wrth geisio gorfodi rheol gwisgo masgiau'r llywodraeth.

Dywedodd un gweithiwr o ganolbarth Cymru wrth arolwg USDAW ei fod wedi cael ei "daro â throlïau ar bwrpas".

Datgelodd un archfarchnad bod cynnydd o 76% mewn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a cham-drin ar lafar tuag at ei staff yn 2020, gyda mwy na 100 o ddigwyddiadau yn siopau Co-op bob dydd.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau dilyn esiampl Llywodraeth Yr Alban a chyflwyno deddfau mwy llym i bobl sy'n cam-drin staff siopau - ond nid yw'n bŵer datganoledig yng Nghymru ac felly mae dan awdurdod San Steffan.

"Mae unrhyw gamdriniaeth sy'n cael ei gyfeirio at staff sy'n gwneud eu gwaith ac yn helpu i gadw cwsmeriaid yn ddiogel yn gwbl annerbyniol," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Rydym yn cefnogi galwad USDAW am fwy o amddiffyniadau i weithwyr siop, a gyda cyfiawnder troseddol wedi'i gadw ar hyn o bryd i Lywodraeth y DU, rydym yn eu hannog i gyflwyno'r ddeddfwriaeth angenrheidiol."

'Ddim isio mynd i weithio'

Dywedodd Jane Jones, gweithiwr til o'r Wyddgrug, bod gweithwyr "bob amser wedi cael eu cam-drin" ond fod hynny wedi cynyddu ers y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Jane Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Jones y byddai deddf i amddiffyn gweithwyr siopau yn "wych"

"Mi allwch chi fod yn wirioneddol bryderus wrth fynd i weithio, " meddai.

"Cyn mynd, rydych chi'n paratoi'ch hun oherwydd eich bod chi'n gwybod beth sydd i ddod."

Dywedodd Ms Jones bod cwsmeriaid yn rhegi arni ac yn taflu pethau at staff.

Mae hyn wedi achosi i'w chydweithwyr dorri lawr mewn dagrau ac angen cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd straen a phryder, meddai.

Dywedodd USDAW ei bod wedi bod yn "flwyddyn ofnadwy i'n haelodau", gan honni bod 92% ohonynt wedi profi camdriniaeth ar lafar yn ystod y pandemig, gyda 70% wedi cael eu bygwth a 14% wedi profi ymosodiad.

"Mae'n dorcalonnus clywed y tystiolaeth hyn gan weithwyr siop o Gymru sy'n haeddu llawer mwy o barch nag y maen nhw'n ei dderbyn," meddai Paddy Lillis, ysgrifennydd cyffredinol USDAW.

"Mae canlyniadau ein harolwg diweddaraf yn dangos yn glir raddfa'r trais, y bygythiadau a'r cam-drin sy'n wynebu gweithwyr siop ac yn dangos yr angen am gyfraith i amddiffyn gweithwyr siop.

"Ar adeg pan ddylen ni i gyd fod yn gweithio gyda'n gilydd i fynd trwy'r argyfwng hwn, mae'n warth bod staff sy'n gweithio i gadw bwyd ar y silffoedd a'r siop yn ddiogel i gwsmeriaid yn cael eu cam-drin."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Silffoedd gwag ar anterth y pandemig y llynedd

Ydy Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno deddf?

Dywedodd Llywodraeth y DU fod canllawiau diwygiedig y Cyngor Dedfrydu wedi'u cyhoeddi ym mis Mai ac yn ei gwneud yn ofynnol i lysoedd drin trosedd sydd wedi'i chyflawni yn erbyn y rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus neu sy'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd fel ffactor gwaeth, gan wneud y drosedd yn fwy difrifol.

"Mae'n gwbl annerbyniol bygwth neu ymosod ar weithwyr siopau, yn enwedig pan maen nhw'n gweithio mor galed i gadw gwasanaethau hanfodol i fynd," medai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.

"Rydyn ni'n rhoi 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol yn ein cymunedau i leihau troseddau - gan gynnwys troseddau manwerthu - ac mi wnaethon ni lansio'r ymgyrch #ShopKind ym mis Ebrill i ddarparu gwell cefnogaeth i ddioddefwyr ac annog cwsmeriaid i drin gweithwyr siop ag urddas a pharch.

"Mae'r Cyngor Dedfrydu wedi nodi canllawiau sy'n golygu y dylai llysoedd gynyddu dedfrydau am ymosodiadau sy'n cael eu cyflawni yn erbyn pawb sy'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd, gan gynnwys gweithwyr siop."