Gemau Paralympaidd 2021: Dod i adnabod y Cymry
- Cyhoeddwyd
Mae 226 athletwr bellach wedi cyrraedd Tokyo ar gyfer y gemau Paralympaidd ac yn eu plith mae 26 sydd o Gymru neu sydd â chysylltiadau Cymreig.
Rhwng 24 Awst a 5 Medi, bydd saith o'r 14 dyn a pump menyw o Gymru yn ymddangos yn y gemau Paralympaidd am y tro cyntaf.
Bum mlynedd yn ôl yn Rio de Janeiro, llwyddodd y Cymry i ennill saith medal, pedwar ohonyn nhw'n rhai aur i ychwanegu at gyfanswm y tîm Prydeinig.
Dyma'r rhai fydd yn cystadlu eleni.
SAETHYDDIAETH
David Phillips
55 oed | Cwmbrân
Wedi toriad o 30 mlynedd fe wnaeth David Phillips ail afael yn y gamp yn 2013.
Tair blynedd yn ddiweddarach roedd yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd diwethaf ym Mrasil pan lwyddodd i gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Llwyddodd i sicrhau ei le ar yr awyren i Tokyo ar ôl canlyniad ffafriol ym Mhencampwriaeth Saethyddiaeth Paralympaidd y Byd yn 2019.
Dyma'r ail waith iddo gystadlu yn y Gemau Paralympaidd.
John Stubbs
56 oed | Sir Ddinbych
Mae Stubbs yn brofiadol iawn yn ei faes. Fe gipiodd fedal aur yn Beijing yn 2008, ac yna'r fedal arian yn Rio yn 2016.
Mae'n wreiddiol o Warrington, Sir Gaer, ond mae bellach yn byw yng ngogledd Cymru.
ATHLETAU
Hollie Arnold
27 oed | o Grimsby yn wreiddiol ond mae'n gymwys drwy rheolau preswyl | Camp: Gwaywffon F46 i Ferched
Ymddangosodd Hollie Arnold yn y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf yn 2008 a hithau ond yn 14 oed.
Llwyddodd i dorri record y byd yn Gemau yn Rio yn 2016 wrth gipio'r fedal aur. Fe gafodd y record ei thorri eto yn 2019 gan Holly Robinson o Seland Newydd.
Dyma fydd y pedwerydd tro iddi gynrychioli Prydain yn y Gemau Paralympaidd.
Olivia Breen
25 oed | o Guildford (ei mam yn Gymraes) | Camp: Naid Hir T38 a 100m i Ferched
Bydd Olivia Breen yn cystadlu mewn dwy gamp.
Llwyddodd i ennill y fedal aur dros Gymru yn y 100m yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia nôl yn 2018.
Aled Sion Davies
30 oed | Caerdydd | Camp: Taflu Pwysau F63 i Ddynion
Aled Sion Davies fydd cyd-gapten tîm Paralympaidd Prydain, sy'n arwydd o'i brofiad a'i ddylanwad.
Fe enillodd fedalau yn Llundain a Rio, ac mae wedi ennill medalau aur yn y gwaywffon a thaflu pwysau.
Ers 2013 mae Davies wedi ennill saith o weithiau ym Mhencampwriaeth y Byd ers 2013.
Kyron Duke
29 oed | Cwmbran | Camp: Taflu Pwysau F41 i ddynion
Mae gobeithion mawr am lwyddiant i Kyron Duke eleni ar ôl iddo dorri record taflu pwysau'r byd nôl yn 2019.
Fe enillodd y fedal arian ym mhencampwriaethau Ewrop eleni sy'n awgrym o ba mor addawol ydy'r athletwr.
Sabrina Fortune
24 oed | Y Wyddgrug | Camp: Taflu Pwysau T20 i Ferched.
Fe ddechreuodd Sabrina ymwneud â'r byd athletau yn 11 oed.
Erbyn iddi droi yn 18, roedd hi'n cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd cyn ennill y fedal efydd yn Rio yn 2016.
Dyma fydd yr ail dro iddi gystadlu yn y gemau Paralympaidd, a chaiff ei hystyried ymhlith goreuon y byd yn ei champ.
Harri Jenkins
25 oed | Castell Nedd | Camp: T33 100m i ddynion
Yn wreiddiol roedd Jenkins yn chwarae pêl fasged mewn cadair olwyn ac fe enillodd aur yn y gamp gyda Phrydain ym mhencampwriaethau dan 23 Ewrop yn 2014.
Yn 2015 fe symudodd i'w gamp para athletau a dyma fydd ei gemau paralympaidd cyntaf.
Harrison Walsh
25 oed | Abertawe | Camp: Disgen F64 i ddynion
Mae Harrison Walsh wedi cynrychioli Cymru mewn rygbi dan 18 oed.
Yn dilyn anaf i'w droed dde fe benderfynodd ddechrau taflu'r ddisgen.
BOCCIA
David Smith
31 oed | Abertawe | Camp: BC1 dynion a BC1/2 cymysg
Mae record anhygoel David Smith yn mynd yn ôl i'r gemau yn 2008.
Enillodd y gŵr 31 oed y fedal aur, arian ac efydd yn Llundain 2012 a Beijing 2008.
Dyma'r pedwerydd tro iddo gynrychioli Prydain yn y Gemau Paralympaidd ac mae'n gobeithio mai fo fydd y chwaraewr Boccia Prydeinig mwyaf llwyddiannus erioed, os caiff o lwyddiant eleni.
CANŴ - PARA
Laura Sugar
30 oed | Sir Caergrawnt (wedi ei geni yng Nghaerdydd) | Camp: KL3 i ferched
Cyn cystadlu yn y canŵ, roedd Laura Sugar yn cynrychioli Cymru mewn hoci cyn cael ei dewis i chwarae dros dîm Prydain yn Rio 2016.
Mae hi'n paratoi ar gyfer ei hail Gemau Paralympaidd ond y tro hwn mewn camp wahanol.
SEICLO - PARA
James Ball
30 oed | Torfaen | B's Dynion (gyda'i beilot Lewis Stewart)
Fe ddechreuodd James Ball fel nofiwr, wedyn athletau, cyn setlo ar seiclo fel camp.
Mae'r seiclwr sydd ag anawsterau gyda'i olwg yn reidio y tu ôl i beilot.
Mae'r ddau wedi cael cryn lwyddiant hyd yma, gydag aur ac arian ym Mhencampwriaethau'r Byd, ychydig wythnosau cyn i gyfyngiadau clo Covid-19 ddod i rym.
MARCHOGAETH-PARA
Georgia Wilson
25 oed | Abergele | Camp: Dressage gradd 2
Daeth yr alwad i Gorgia Wilson ymuno gyda gweddill carfan Prydain yn hwyr iawn wedi i Sophie Christanses orfod tynnu allan ar ôl i'w cheffyl dderbyn triniaeth.
Fe wnaeth Wilson ddechrau marchogaeth a hithau ond yn ddwy oed ar ôl i rywun ddweud wrth ei mam y byddai'n ei helpu i ddatblygu ei balans.
Bydd Wilson yn cystadlu ar gefn ei cheffyl Sahura sy'n saith oed.
JIWDO
Jack Hodgson
24 oed | Llanbadarn Fawr | Camp: 100kg + ar gyfer y dynion
Roedd aelodau o deulu Jack Hodgson yn gweithio i'r fyddin, felly fe dreuliodd ei blentyndod yn symud i fyw o le i le.
Fe ddechreuodd ymarfer jiwdo pan oedd yn saith oed.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fe dderbyniodd y newyddion ei fod yn dioddef o gyflwr sy'n effeithio ar ei olwg.
Mae Jack yn chweched yn rhestr detholion y byd yn ei gamp.
RHWYFO-PARA
Benjamin Pritchard
29 oed | Abertawe | Camp: PR1 M1x
Roedd Benjamin Pritchard yn seiclwr arbennig o dda oedd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau triathlon cyn i wrthdrawiad yn 2016 ei barlysu o'i ganol i lawr.
Wedi hynny fe ddechreuodd rwyfo ac yn 2017 fe ymunodd gyda Carfan Datblygu Rhwyfo Para Prydain yn 2017.
Doedd dim disgwyl i'r rhwyfwr gystadlu eleni - roedd ei hyfforddwyr yn ei baratoi ar gyfer y gemau ym Mharis yn 2024 - ond fe lwyddodd i'w darbwyllo y dylai gystadlu eleni.
PARA-TENIS BWRDD
Joshua Stacey
21 oed | Caerdydd | Camp: Senglau Dosbarth 9 ar gyfer y dynion a dosbarth 9-10 timau dynion
Fe ddechreuodd Joshua Stacey chwarae tennis bwrdd yn 13 oed. Pedair blynedd yn ddiweddarach cafodd ddiagnosis o barlys yr ymennydd.
Llwyddodd i ennill y fedal efydd i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia yn 2018.
Mae yn safle 13 ar restr detholion y byd yn ei gamp.
Paul Karabardak
35 oed | Abertawe | Camp: Dosbarth 6 i ddynion a Dosbarth 6-7 timau dynion
Roedd Paul Karabardak yn bêl-droediwr o fri pan yn blentyn. Cafodd strôc yn 10 oed.
Fe ddechreuodd chwarae tenis bwrdd ac erbyn iddo fod yn 15 oed roedd wedi ei ddewis i dîm Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop ble enillodd y fedal efydd gyda'r tîm.
Dyma fydd y pedwerydd tro iddo ymddangos yn y Gemau Paralympaidd.
Tom Matthews
29 oed | Aberdar | Camp: Dosbarth 1 senglau y dynion
Roedd Tom Matthews yn seiclwr mynydd o fri nes i ddamwain yn 2016 ei orfodi i ddefnyddio cadair olwyn ac yntau yn 16 oed.
Fel rhan o'i adferiad, fe ddechreuodd chwarae tennis bwrdd cyn ymuno gyda charfan Cymru ar ôl gadael yr ysbyty.
Fe dorrodd ei goes cyn y Gemau yn Rio yn 2016 felly dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu yn y Gemau Paralympaidd.
PARA-TAEKWONDO
Beth Munro
28 oed | Lerpwl (Mam yn Gymraes) | Camp: K44 -58kg i ferched
Dim ond ym mis Mai y gwnaeth Beth Munro ei hymddangosiad cyntaf yn y gamp, ac fe gafodd hi wahoddiad gan Chwaraeon Anabledd Cymru i ymuno gyda thîm Prydain.
Llwyddodd i ennill yr ornest gyntaf yn gyfforddus a sicrhau ei lle yn Tokyo eleni.
CLEDDYFA CADAIR OLWYN
Gemma Collis-McCann
28 oed | Manceinion (Mam yn Gymraes) | Camp: Cleddyfa i ferched
Fe wnaeth Gemma Collis-McCann gystadlu yn y Gemau yn Llundain yn 2012 wedi i'w thalent gael ei weld wrth gystadlu yn y Brifysgol yn Durham.
Hi yw'r unig fenyw o Brydain i ennill aur yng Nghwpan y Byd a hynny yn Montreal yn 2018.
RYGBI CADAIR OLWYN
Jim Roberts
33 oed | Y Trallwng | Camp: Dosbarth 3.0
Roedd Jim Roberts yn rhedwr traws gwlad o fri cyn iddo fynd yn sâl tra yn y Brifysgol a cholli ei ddwy goes.
Fe wnaeth nyrs oedd yn ei gefnogi yn ystod ei adferiad ei gyflwyno i rygbi ar gyfer pobl mewn cadair olwyn.
Ymddangosodd gyntaf i dîm Prydain yn 2013 cyn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Rio yn 2016.
Hefyd o ddiddordeb: