Cwpan yr EFL: Caerdydd 0-2 Brighton

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Caerdydd allan o Gwpan y Gynghrair yn Lloegr wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Brighton yn yr ail rownd nos Fawrth.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn Stadiwm Dinas Caerdydd o fewn 10 munud, gyda Jakub Moder yn rhoi'r bêl trwy goesau'r golwr Alex Smithies i sgorio.

Dyblwyd mantais Brighton ar ddechrau'r ail hanner wrth i Andi Zeqiri rwydo o du mewn i'r cwrt cosbi, ac roedd hynny'n ddigon i selio'r fuddugoliaeth i'r clwb o'r Uwch Gynghrair.

Fe wnaeth Abertawe drechu Plymouth yn yr un gystadleuaeth nos Fawrth, tra bo Casnewydd yn herio Southampton nos Fercher.

Bydd yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer y drydedd rownd yn hwyr nos Fercher.