Llofruddiaeth Pen-y-cae: Dau o flaen llys ynadon

  • Cyhoeddwyd
Karl SaffyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Karl Saffy yn yr ysbyty yn dilyn cythrwfl ym Mhen-y-Cae ddydd Llun

Mae dau ddyn o Ben-y-Cae yn Sir Wrecsam wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ar gyhuddiad o lofruddio dyn 57 oed.

Bu farw Karl Saffy, o ardal Cristionydd y pentref, ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn cythrwfl ym Mhen-y-Cae ddydd Llun, 23 Awst.

Mewn gwrandawiad a barodd am bedwar munud, fe gadarnhaodd Luke Williams, 24 oed, a David Williams, 52 oed eu henwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni a'u bod yn deall y cyhuddiadau yn eu herbyn.

Cafodd y ddau ddiffynnydd eu dychwelyd i'r ddalfa nes eu hymddangosiad llys nesaf yn Llyr y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth 31 Awst.

'Canolbwynt bywyd y teulu'

Yn gynharach ddydd Gwener, fe dalodd deulu Mr Saffy deyrnged iddo.

Dywedodd y teulu mewn datganiad: "Roedd Karl yn ŵr, tad, brawd a thaid annwyl a bydd yn cael ei golli gyda thristwch gan lawer.

"Fo oedd canolbwynt bywyd y teulu ac fe gafodd ei gymryd oddi arnom lawer yn rhy fuan.

"Fel teulu mae calonnau ni oll wedi eu torri yn dilyn ei farwolaeth drasig."

Pynciau cysylltiedig