Dau ddyn yn yr ysbyty ar ôl cael eu trywanu yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn yn yr ysbyty wedi iddyn nhw gael eu trywanu yng Nghaerdydd dros nos.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod dau ddyn 21 oed wedi cael eu hanafu yn yr ymosodiad yn ardal Kingsway am tua 01:00 fore Sul.
Ychwanegon nhw fod criw o ddynion wedi'u gweld yn rhedeg i ffwrdd o'r digwyddiad.
Mae'r ffordd yn parhau ynghau rhwng Heol y Brenin a Heol Greyfriars tra bo'r llu yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Mae gyrwyr wedi cael eu hannog i osgoi'r ardal.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Matthew Cox: "Rydyn ni'n ymchwilio i ymosodiad difrifol arall yng nghanol Caerdydd.
"Ar yr achlysur yma cafodd dau ddyn eu hanafu ond mae'r ddau mewn cyflwr sefydlog.
"Mae gan droseddau cyllyll ganlyniadau difrifol ac mae mynd i'r afael â'r mater pryderus yma yn flaenoriaeth i ni."
Dyma'r ail ymosodiad o'r fath yn y brifddinas dros y penwythnos, wedi i dri o bobl gael eu harestio yn dilyn digwyddiad yn yr oriau mân fore Sadwrn.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2021