Aur i dîm rygbi cadair olwyn Prydain yn Tokyo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rygbi cadair olwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jim Roberts (dde) o'r Trallwng sgorio 24 cais wrth iddo arwain ei dî at y fuddugoliaeth

Mae tîm rygbi cadair olwyn Prydain, dan arweiniad y Cymro Jim Roberts, wedi ennill aur yng Ngemau Paralympaidd Tokyo.

Roedd Prydain ar y blaen o'r dechrau yn erbyn yr Unol Daleithiau yn y rownd derfynol, gan ennill o 54-29.

Fe wnaeth Roberts, 33 oed o'r Trallwng, sgorio 24 cais wrth i'w dîm ennill yr aur cyntaf i Brydain yn y gamp.

Roedd tîm Prydain wedi colli yn y gemau am y fedal efydd yng ngemau 2004 a 2008.

Pynciau cysylltiedig