Galw am gadw safleoedd bwyta tu allan yn Nolgellau
- Cyhoeddwyd
Mae dros fil o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Gyngor Gwynedd i gadw y llefydd bwyta ac yfed tu allan yn Nolgellau.
Ar hyn o bryd mae pebyll pwrpasol wedi'u gosod ar feysydd parcio i saith o geir yn y dre.
Yn sgil Covid, ym mis Mehefin 2020 rhoddwyd caniatâd i godi pebyll ar bedwar o lefydd parcio o flaen Tafarn yr Unicorn ac ar dri o lefydd parcio ger bwyty'r Sosban.
Dywed busnesau lleol bod y cynllun wedi bod yn llwyddiannus ond bellach mae Cyngor Gwynedd, yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru i lacio cyfyngiadau, wedi anfon llythyron yn galw am droi y safleoedd yn ôl yn lefydd parcio erbyn 1 Medi.
Mae Llinos Rowlands, perchennog Café Bar Gwin Dylanwad Wine, yn gwrthwynebu ac mae hi wedi ffurfio deiseb sydd yn galw ar y cyngor i gadw'r drefn bresennol.
"Mae'r cynllun presennol wedi gweithio yn arbennig o dda, ma' pobl yn mwynhau bod tu allan… ma nhw'n teimlo'n ddiogel," meddai.
"Dan ni wedi cael llythyr wythnos dwetha yn gofyn i ni symud popeth a chlirio... a'i droi o nôl yn feysydd parcio.
"Dwi isio gweld bod hyn yn parhau am y flwyddyn nesa… 'Dan ni yn bell o ddod allan o sefyllfa Covid. Mae pobl ofn dod tu mewn. Buaswn i'n hoffi gweld trafodaeth ar mannau tu allan yn y dref a thrafodaeth am barcio yn y dref i weld sut allwn ni wella - gweld os allwn ni greu sefyllfa braf i bobl fwyta ac yfed tu allan."
Cyfarfod yn fuan
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Yn ystod cyfnod cychwynnol yr argyfwng Covid-19, cyflwynodd Cyngor Gwynedd gyfres o orchmynion cau strydoedd dros dro i alluogi busnesau i weithredu o fewn rheolau pellhau cymdeithasol cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
"Ar 7 Awst 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod y rheolau hyn yn dod i ben dros dro a gyda hynny cyfiawnhad Cyngor Gwynedd dros gyflwyno cau strydoedd dros dro mewn nifer o drefi.
"Er gwaethaf cwynion gan aelodau'r cyhoedd a rhai busnesau, penderfynwyd ar y pryd i gadw'r gorchmynion cau strydoedd yn eu lle am gyfnod estynedig dros wyliau'r haf i gefnogi'r sector lletygarwch lleol yng Ngwynedd.
"Gyda gwyliau'r ysgol bellach yn dod i ben, ac ar ôl ystyried yn ofalus, penderfynwyd mai nawr yw'r amser cywir i gysylltu â busnesau i ofyn iddynt dynnu eu cyfleusterau o'r briffordd gyhoeddus.
"Rydym wedi cael gwybod gan gynghorwyr Dolgellau fod y penderfyniad yma wedi arwain at bryderon yn cael eu lleisio'n lleol am yr effaith bosib ar fusnesau lletygarwch yn y dref.
"Ar gais Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, byddwn yn trefnu cyfarfod gyda chynrychiolwyr lleol dros y dyddiau nesaf i drafod y pryderon hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020