Codi'r rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid Cymru ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Er y llacio cyfyngiadau, "rhaid i bobl gymryd y feirws yma o ddifri' o hyd", meddai'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan

Bydd y rhan fwyaf o gyfyngiadau coronafeirws Cymru'n cael eu llacio ddydd Sadwrn, gyda'r wlad yn symud i lefel rhybudd sero.

Ar lefel rhybudd sero, bydd yr holl gyfyngiadau ar gwrdd â phobl eraill yn cael eu codi a bydd modd i bob busnes ailagor.

Ond bydd rhai mesurau diogelwch yn parhau i fod mewn grym - fel gofyniad i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd y Prif Weinidog bod symud i lefel rhybudd sero yn "gam pwysig arall ymlaen" i bawb, ond ddim yn "ddiwedd y cyfyngiadau na rhyddid i bawb wneud fel y mynnant".

Beth sy'n newid o ddydd Sadwrn, 7 Awst?

• Dim cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd ag eraill;

• Bydd pob busnes ac adeilad yn gallu ailagor gan gynnwys clybiau nos;

• Bydd disgwyl i gwmnïau gynnal asesiadau risg;

• Bydd angen masgiau wyneb mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth dderbyn gofal iechyd, ond nid mewn caffis, tafarndai a bwytai, nac ysgolion;

• Ni fydd angen i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn hunan-ynysu os ydyn nhw'n dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif.

Hefyd yn newid ydy'r gofyniad am weini wrth y bwrdd mewn bariau a thafarndai, ac fe fydd cyfyngiadau ar bartïon priodas yn dod i ben.

Er bod y rheolau ar ynysu yn newid, fe fydd dal angen hunan-ynysu am 10 diwrnod os ydy rhywun yn dal Covid.

Wrth gyhoeddi'r penderfyniad, 17 mis ers y cyfnod clo cyntaf, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y "gallwn ni i gyd fwynhau mwy o ryddid gyda'r hyder bod mesurau diogelwch pwysig ar waith o hyd i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu".

Ond dywedodd nad yw'r pandemig ar ben eto: "Fe ddylen ni barhau i gadw ein pellter pan fyddwn allan a gweithio gartref os yw'n bosib.

"Fe ddylen ni hefyd barhau i wisgo masg wyneb, yn enwedig mewn mannau prysur, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

"Mae cymryd cyfrifoldeb a gweithio gyda'n gilydd yn golygu y gallwn ni i gyd wneud y pethau yr ydyn ni wedi'u methu fwyaf."

Ai dyma ddiwedd y cyfyngiadau?

Ar Radio Wales fore Gwener, fe ddywedodd Mr Drakeford bod brechlynnau "wedi erydu" y cysylltiad rhwng bod yn wael gyda Covid a bod mor wael bod angen gofal ysbyty.

Dywedodd bod hynny'n rhoi'r hyder iddo lacio'r cyfyngiadau.

"Wrth i'r cynllun brechu barhau, a rhoi'r amddiffyniad yna i ni, dydw i ddim yn disgwyl y bydd rhaid dychwelyd i'r math o gyfyngiadau a welon ni ar ddechrau'r flwyddyn," meddai.

Ond ychwanegodd y byddai'r cyfyngiadau'n dychwelyd petai "newid sydyn" er gwaeth yn y sefyllfa.

"All neb ddiystyru syrpreis ofnadwy - fel sydd wedi dod gyda'r feirws yma - ac os oes newid sydyn allwn ni ddim ei ragweld, yna wrth gwrs byddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu eto i amddiffyn pobl Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dilwyn Morgan yn erfyn ar bobl i "ddangos parch" at fusnesau lleol yn sgil y llacio pellach dros y penwythnos

Dywedodd Dilwyn Morgan, Cynghorydd Gwynedd sy'n cynrychioli tref Y Bala, ei fod yn "falch" i gael symud ymlaen.

"Rwy'n falch ein bod ni'n symud ymlaen ond eto mae eisiau bod yn ofalus... Ma'i wedi bod yn gyfnod anodd a heriol i'r gymuned ac hefyd i fusnesau lleol," meddai.

"Mae 'na lawer o fusnesau - yn enwedig busnesau bach - wedi dod ata i yn cwyno bod nhw'n cael amser caled yn esbonio'r rheolau i bobl sy'n ymweld â'r ardal.

"Mae 'na lawer iawn o gamddealltwriaeth wedi bod ac mae 'na lawer o bobl ddim yn dangos parch at y rheolau, felly dwi'n gobeithio fydd y cyhoeddiad yn help i gael eglurdeb ar hynny."

Ond mae Mr Morgan yn erfyn ar bobl i ddangos parch at fusnesau lleol yn sgil y llacio pellach dros y penwythnos.

"Rwy'n erfyn ar bobl i ddangos parch i'w gilydd a dangos parch i'r cyfnod anodd mae nhw [busnesau lleol] wedi bod trwyddo.

"Ar ddiwedd y dydd, dydi Covid ddim wedi dod i ben, mae o dal yma a 'da ni eisiau bod yn ofalus."

Disgrifiad,

Pryder am ddyfodol tafarn Cymraeg

Un perchennog busnes sy'n bryderus am ddiddymu'r cyfyngiadau yw Eleri Pugh o dafarn Yr Eagles yn Llanuwchllyn.

"Does ganddo ni ddim staff i helpu ni ac ar hyn o bryd, fedrwn ni ddim hyd yn oed meddwl am fynd yn ôl fel ag yr oedden ni," meddai.

"Mae pawb sydd ganddo ni yn fendigedig ac mae nhw'n gweithio mor galed, ond os na fedrwn ni gael mwy i helpu, fedrwn ni ddim rhoi'r gwasanaeth i agor y lle i gyd fel yr oedd o o'r blaen."

Ar hyn o bryd mae ganddi 12 aelod o staff - ffigwr sydd wedi mwy na haneru ers haf 2019, pan roedd ganddi 26 aelod o staff.

"Mae'n straen mawr," meddai. "Does ganddo ni ddim rheolaeth.

"Dwi di bod erioed yn rhoi'r gorau i bawb a 'di rhywun ddim yn meddwl bod nhw'n gallu g'neud hynna ddim mwy."

'Dawnsio a mwynhau eto'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Beth Hughes yn edrych ymlaen yn fawr at gael croesawu pobl yn ôl i'r parc gwyliau heb gyfyngiadau

Ond mae busnesau eraill yng Nghymru yn edrych ymlaen at gael croesawu pobl yn ôl heb gyfyngiadau.

Dywedodd Beth Hughes o gwmni Lyons Holiday Parks ei bod yn "edrych ymlaen yn fawr".

"Mae pawb eisiau cael gwyliau arferol heb gyfyngiadau sy'n effeithio ar eu gwyliau gymaint," meddai.

"O ddydd Sadwrn ymlaen fydd ddim rhaid bwcio o flaen llaw i gael defnyddio'r pwll nofio ac i weld yr adloniant, felly 'da ni'n edrych ymlaen i gael gweld pobl yn dawnsio a mwynhau eu hunain eto."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu'r cyhoeddiad, ond wedi galw ar y llywodraeth i wario arian sydd "dros ben" ar gefnogi swyddi sydd wedi eu taro gan y pandemig.

Dywedodd Plaid Cymru bod rhaid i'r llywodraeth fod yn barod i "gamu'n ôl" os ydy'r llacio yn arwain at "ymateb andwyol".