Meddyg o Fangor yn galw am edrych eto ar reolau Covid
- Cyhoeddwyd
Mae un meddyg teulu o Fangor wedi dweud wrth BBC Cymru bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar ailgyflwyno rheolau ar faint o bobl sy'n cael cwrdd y tu mewn yn sgil cynnydd yn niferoedd yr achosion o Covid.
Dywedodd Dr Nia Hughes wrth raglen Newyddion S4C bod y rheolau wedi llacio'n ormodol, ond yn ôl Llywodraeth Cymru roedd disgwyl i gyfradd yr achosion godi yn sgil llacio.
Dywedodd llefarydd o'r llywodraeth y byddant yn cadw golwg ofalus ar y sefyllfa wrth i ysgolion ailagor.
"Mae'r ffaith bod y niferoedd wedi mynd mor uchel rŵan yn gwneud i mi feddwl yn bersonol fysa'n well tasan ni wedi peidio â llacio'r rheolau gymaint a wnaethon ni 'neud achos mae o'n anodd rŵan sbïo'r ysgolion yn cychwyn agor a'r cyfraddau mor uchel ag ydyn nhw... yn sicr mae 'na impact ar y gweithleoedd hefyd, efo unigolion yn bositif a thrio cadw'r gweithlu i fynd," medd Dr Hughes.
"Dyna dwi'n meddwl ydy'r peth mwya'... 'dan ni'n gwbod mae o'n saffach i fod mewn rhywle sydd wedi awyru - rhywle sydd tu allan, felly pan fydd gynnoch chi nifer helaeth yn ymgynnull mewn safleoedd dan do sydd heb ei awyru'n dda mae'r pryder yna fod lledaeniad y feirws yn mynd i fod ar ei anterth.
"O bosib [mae angen] sbïo ar y sefydliadau yna a gweld beth sydd angen ei wneud - clybia nos a ballu, ond dwi'n gwbod bod 'na ochr arall iddi efo dal i gadw llefydd i fynd, a 'dan ni'm hisio pobl yn colli swyddi oherwydd hynny ond dwi'n meddwl bod angen cael rhyw faint o falans yn ôl."
Ymateb y gwrthbleidiau
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig nad ydynt o blaid ailgyflwyno cyfyngiadau ar hyn o bryd ac mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi gwybodaeth glir ar beth mae'r data yn ei ddweud.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Ry'n wedi gwneud sawl cam sylweddol yn y frwydr yn erbyn coronafeirws - diolch i raglen frechu wych llywodraeth y DU ac mae hynny yn golygu bod llai o bobl yn yr ysbyty o ganlyniad i'r haint a hefyd mae ein rhyddid wedi'i adfer.
"Dylai ein hadferiad fod yn flaenoriaeth i bob llywodraeth - o ran yr economi, cymdeithas a gwasanaethau cyhoeddus - a rhaid cynnal y gwelliant sydd wedi'i gyflawni yn ystod y misoedd diwethaf.
"Mae siarad am ailgyflwyno cyfyngiadau yn ddianghenraid ar hyn o bryd ac wrth symud ymlaen rhaid sicrhau bod unrhyw benderfyniad iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wneud ar sail y data gorau posib.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylai penderfyniadau o'r fath gael eu seilio ar y niferoedd mewn ysbytai."
Wrth ymateb i alwadau am gyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd dan do, wrth i niferoedd achosion Covid yng Nghymru godi eto, dywedodd Llefarydd Cymunedau Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths AS: "Drwy gydol y pandemig rydym wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu da a chlir gan Lywodraeth Cymru.
"Nawr, ar adeg pan fo niferoedd achosion yn codi, mae'n bwysig eu bod yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae'r data'n ei ddweud wrthynt - yn benodol ar sut mae'r rhaglen frechu wedi effeithio ar nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty o Covid, ac a yw'r brechlyn yn parhau i fod yn llinell amddiffyn fwyaf pwerus yn erbyn y feirws.
"Yn y canllawiau diweddaraf i ysgolion, mae'r llywodraeth, a hynny'n gwbl briodol, wedi rhoi mwy o ffocws i awyru fel arf effeithiol yn erbyn trosglwyddo - mae hyn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ers y llynedd.
"Rhaid i'r llywodraeth barhau i gyfeirio'r cyngor diweddaraf sy'n helpu pobl - ym mhob lleoliad - i amddiffyn eu hunain rhag y feirws, cyn troi at fesurau sy'n cyfyngu ar symudiad. Fodd bynnag, os bydd derbyniadau i'r ysbyty o Covid yn codi'n rhy uchel, ac os nad yw'r mesurau presennol yn effeithiol, rhaid iddynt fod yn barod i gymryd y cam hwnnw os oes angen."
'Angen cael brechiad'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod cyfraddau uwch o'r haint yn cyd-fynd â'n disgwyliadau yn sgil llacio'r cyfyngiadau, mae'r cyfraddau uwch yn ein hatgoffa bod y feirws yn parhau gyda ni.
"Byddwn yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa wrth i ysgolion ddychwelyd ond mae'r cynllun brechu yng Nghymru wedi gwanhau y cyswllt rhwng y feirws a'r nifer sy'n gorfod mynd i ysbytai.
"Mae'n ddyletswydd arnom i leihau lledaeniad yr haint ac fe fyddwn yn annog unrhyw un sydd hyd yma ddim wedi'i frechu i gael brechlyn er mwyn cadw eu hunain ac anwyliaid yn ddiogel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd30 Awst 2021
- Cyhoeddwyd24 Awst 2021