Cleifion Covid hir i deilwra triniaeth i eraill
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cleifion Covid hir yn cydweithio gyda bwrdd iechyd y gogledd i deilwra triniaethau ar gyfer dioddefwyr dros Gymru.
Mae Covid yn cael ei ddiffinio gan symptomau sy'n parhau 12 wythnos ar ôl i berson ddal y feirws am y tro cyntaf, er bod nifer yn sâl am gyfnodau llawer hirach.
Dywedodd un sydd wedi dioddef ers dros flwyddyn bod y salwch bellach yn "ffordd o fyw".
Yr amcangyfrif yw y bydd tua 15% o gleifion yn dioddef yr haint estynedig.
Er na fydd angen triniaeth hirdymor ar bob claf, mae disgwyl y bydd nifer fawr angen cymorth am gyfnodau hir.
Er mwyn ceisio gwella safon y driniaeth, fe fydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cynnal cyfarfodydd cyson rhwng staff a chleifion er mwyn rhannu profiadau.
Y bwriad ydy cynnig cymorth gan ystod o feddygon arbenigol mewn un lle - o ffisiotherapyddion i seicolegwyr.
Bydd modd i ddioddefwyr dderbyn triniaeth a dysgu sut i drin rhai o'u symptomau yn annibynnol, fel rhan o'r Grŵp Adferiad Hirdymor.
Claire Jones sy'n arwain triniaeth Covid hir ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
"'Da ni'n gwybod bod gymaint o wahanol organau all gael eu heffeithio gan symptomau Covid hir, ac mae hynny'n gallu golygu lot o apwyntiadau, lot o arbenigwyr.
"Mae hynny'n gallu creu straen - mynd am lot o brofion, cael yr holl ganlyniadau, felly 'da ni am wneud hynny drostyn nhw a'u cefnogi ar hyd y daith."
'Ffordd o fyw rŵan'
Mae Nicky Leanne o'r Felinheli wedi dioddef gyda symptomau Covid hir ers dros flwyddyn, yn cynnwys PTSD, brain fog a fibromyalgia - cyflwr sy'n achosi poen a blinder eithafol.
Yn gynharach eleni dywedodd bod y salwch "fatha'r hangover gwaetha'", ac mae'n dal i ddioddef.
"Dwi 'di derbyn counselling y flwyddyn yma - o'dd corff fi'n mynd trwy PTSD... Mae fatho bo' corff fi 'di cael breakdown.
"Bob noson dwi'n gorfod cysgu gyda thabledi sy'n nerve blockers i helpu fi gysgu. Dwi'n cael anxiety attack trwy'r nos os dwi ddim yn cymryd nhw."
Dywedodd Nicky, 32, bod ei chyflwr wedi gwella rhyw faint, ond ei bod dal yn cael "diwrnodau gwael".
"Mae o'n ffordd o fyw 'ŵan. Dwi jyst 'di arfer gyda fo," meddai.
Er ei bod yn teimlo bod sicrhau triniaeth wedi bod ychydig yn araf, dywedodd ei bod yn "teimlo fel bo' nhw'n trio mwy 'ŵan".
Mae hi'n meddwl bod cynllun Covid hir Betsi Cadwaladr yn "brilliant": "Dwi'n meddwl bo' angen 'neud o. Mae o'n rhywbeth 'swn i'n licio bod yn rhan o."
Dywedodd Claire Jones bod y tîm "wedi gwrando ar brofiadau cleifion gan ganolbwyntio ar beth sy'n bwysig iddyn nhw".
Y nod, meddai, ydy "darparu gofal sy'n agos i gartrefi cleifion, felly dydyn nhw ddim angen teithio yma".
Ychwanegodd bod y bwrdd yn "hynod o ddiolchgar" i bobl sydd wedi rhoi eu hamser tra eu bod yn wael.
"Maen nhw wedi rhoi lot o'u hamser ac wedi bod yn agored ac onest mewn cyfnod lle maen nhw'n teimlo'n sâl.
"'Da ni'n gobeithio y bydd hyn yn creu gwasanaeth well iddyn nhw... a sicrhau y gallwn deilwra triniaeth i anghenion unigol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021