Hen safle hufenfa Llandyrnog wedi'i werthu

  • Cyhoeddwyd
The creamery

Mae hen safle'r hufenfa Arla ym mhentref Llandyrnog wedi'i werthu i gwmni sy'n darparu deunyddiau i'r diwydiant adeiladu.

Cafodd 97 o swyddi eu colli pan gafodd y ffatri gaws yn Sir Ddinbych ei chau yn 2018, gan gael effaith difrifol ar yr ardal leol.

Mae'r safle nawr wedi'i brynu gan Procter Johnson, cwmni sy'n prosesu pigmentau a deunyddiau eraill i'r diwydiant adeiladu.

Mae Proctor Johnson yn adleoli i Landyrnog o'i safle presennol yn Fflint ac yn bwriadu creu 40 o swyddi yn yr ardal.

Mewn llythyr a rannwyd ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Proctor Johnson, Harvey Jackson: "Rydym yn gyffrous i ddechrau gweithio yn Llandyrnog ac yn gobeithio gallwn gael effaith positif ar y pentref a'r gymuned ehangach.

"Mae'r hufenfa yn rhoi cyfle i ni ehangu a thyfu'r busnes ymhellach.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd busnes Arla ei symud i'r Alban o Landyrnog yn 2018.

"Ar y funud, rydym yn cyflogi 37 o bobl ac rydym yn gobeithio ehangu ar hyn wrth i'r busnes tyfu," ychwanegodd.

"Rydym yn bwriadu cynnig buddsoddant sylweddol, yn bennaf mewn offer newydd, ac yn gobeithio dechrau gweithredu ym Mhasg 2022."

Fe wnaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Dyffryn Clwyd, James Davies, croesawu'r newyddion.

"Mae'n newyddion ffantastig bod y safle gwag yma yn cael ei ddefnyddio eto a dwi'n falch mai busnes o ogledd Cymru sydd wedi ei brynu," dywedodd.

"Mae'r safle newydd tua dwbl maint eu safle presennol felly mae yna ddigonedd o gyfle i wneud hyn," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig