Ymdrechion i ddiffodd tân mawr ym Mlaenafon
- Cyhoeddwyd
Dros nos bu 60 o swyddogion yn ceisio diffodd tân mewn adeilad ailgylchu plastig yn Nhorfaen.
Anfonodd Gwasanaethau Tân De a Chanolbarth Cymru 14 o adnoddau a saith swyddog i Capital Valley Plastics ym Mlaenafon oddeutu 21.40 nos Sadwrn.
Roedd yna rybudd i gymdogion gadw eu drysau a ffenestri ar gau oherwydd y mwg trwchus.
Mae'r tân bellach o dan reolaeth a fore Sul roedd 20 diffoddwr a phum injan yn parhau i fod ar y safle.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân na chafodd yr un person ei anafu.
Mae disgwyl oedi i deithwyr yn yr ardal gan bod Heddlu Gwent wedi cau ffyrdd er mwyn caniatàu i griwiau ddelio â'r digwyddiad.