Ailagor ffyrdd parthau diogel trefi Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Daeth rhai o'r mesurau gafodd eu gosod i greu parthau diogel yn nhrefi Ceredigion i ben dros y penwythnos.
Daeth y trefniant o gau rhai strydoedd i gerbydau yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Chei Newydd i ben ddydd Sul wrth i'r cyngor sir ragweld y bydd llai o bobl yn ymweld â'r ardaloedd wedi diwedd yr haf.
Yn ôl rhai o fusnesau Aberystwyth, fe gafodd rhai mesurau effaith negyddol ar y dref.
Mae disgwyl i fesurau fel llwybrau troed lletach barhau am y tro.
Fe gafodd y parthau diogel eu cyflwyno yng Ngorffennaf 2020, ac mae'r croeso wedi bod yn gymysg.
'Mae wedi bod yn anodd'
Yn fusnes newydd sydd wedi ei leoli "ychydig pellach i ffwrdd o'r stryd fawr", mae siop Pwdin yn teimlo bod llai o gwsmeriaid yn "taro heibio".
"Mae wedi bod yn anodd fel busnes achos dyw'r deliveries methu dod a dyw cwsmeriaid methu dod i gasglu archebion," meddai Elinor Thomas, sy'n gweithio yno.
"Dyw pobl ddim yn gweld ni, gan fod y stryd yma ar gau achos does dim cymaint o gwsmeriaid yn cerdded heibio'r siop. Heblaw eich bod chi'n gwybod ein bod ni yma, fyddech chi ddim yn pasio heibio."
Yn ôl Ms Thomas, mae pobl leol yn gwneud pwynt o osgoi canol y dref.
"O ran rhywun lleol, dwi'n 'nabod lot o'r trigolion lleol sydd dim ond yn dod i'r dref ar ddydd Sul pan mae'r strydoedd ar agor ond mae'r rhan fwyaf o'r siopau ar gau," meddai.
"Mae'r traffig y tu allan i'r dref lot trymach hefyd ac mae'n bach o broblem."
'Anniben iawn'
Bydd elfennau eraill o'r parthau diogel yn parhau mewn grym am y tro, gan gynnwys y trefniadau amgen ar gyfer llif y traffig a'r llwybrau troed lletach, a fydd yn galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol rhesymol wrth grwydro'r trefi.
Er nad yw Siop Inc wedi gweld effaith uniongyrchol i gau'r strydoedd, mae ailagor y ffyrdd yn ddiwrnod i'w ddathlu.
Fe ddywedodd Tomos Morgan: "Ni'n gweld cwsmeriaid lleol yn dod i mewn lot fwy cynnar, cyn bod y strydoedd yn cau.
"Dwi ddim wedi mwynhau cael y parthau yma, mae lot o gwympo mas wedi bod am y peth ac mae'n edrych yn anniben iawn."
'Angen ymgynghori mwy'
Dymuniad Ceredig Davies, sy'n cynrychioli canol Aberystwyth ar y cyngor sir, yw gweld gwell proses ddemocrataidd cyn penderfyniadau yn y maes o hyn allan.
"Dyma'r ddadl sydd wedi bod gyda ni fel gwleidyddion a swyddogion lleol ers y 18 mis diwethaf yma," meddai.
"Does dim digon o ymgynghoriad wedi bod. I fod yn deg, s'neb wedi bod mewn sefyllfa pandemig o'r blaen.
"Ond, mae pob tref yn wahanol - Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Chei Newydd - ac mae'n swnio'n benfawr i ddweud ond wi'n gwybod shwt mae Aberystwyth yn tico, ac mae cynghorwyr yr ardaloedd eraill yn gw'bod shwt mae'r llefydd yna yn tico.
"Dyna fydde ni'n gobeithio, yw ymgynghoriad efo ni ac efo busnesau o hyn allan."
Ymgynghoriad cyhoeddus arall i ddod
Dywedodd Cyngor Ceredigion: "Mae'r coronafeirws yn parhau yn fygythiad yn ein cymunedau ac mae cyfraddau heintio yn codi'n ddramatig ymhob rhan o'r sir.
"O ganlyniad, mae'r Parthau Diogel yn parhau i fod yn fesur hollbwysig i alluogi pobl i grwydro'r strydoedd yn rhydd ac yn ddiogel heb deimlo eu bod mewn perygl o ddod i gysylltiad â'r feirws mewn unrhyw ffordd.
"Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i gysylltu â busnesau sydd wedi manteisio ar y trefniant o gau ffyrdd trwy greu ardaloedd eistedd yn yr awyr agored i bobl fwynhau. Byddwn hefyd yn trafod opsiynau â busnesau er mwyn cefnogi hyfywedd economi ein trefi yn y dyfodol.
"Bydd ymgynghoriad cyhoeddus arall yn cael ei gynnal ar y Parthau Diogel yn ystod y misoedd nesaf i asesu eu heffaith a chasglu syniadau ar gyfer y ffordd orau ymlaen i'n trefi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2020
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020