Ofni 'anhrefn' wrth gau'r A483 dros nos
- Cyhoeddwyd
Mae pobl leol yn ofni oedi difrifol wrth i un o brif ffyrdd y gogledd ddwyrain gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
Mae'r A483 yn cau dros nos am bedwar diwrnod, a hynny rhwng cyffordd 1 yn Rhiwabon a chylchfan Halton ger Y Waun.
Bydd y ffordd ynghau er mwyn cynnal profion ac arolygon ar draphont Afon Dyfrdwy.
Mae Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn dweud bod y gwaith yn digwydd dros nos i leihau'r aflonyddu, ac y bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio trwy Langollen ar hyd yr A5 a'r A539.
Ond dywedodd aelod o Gyngor Tref Llangollen, Stuart Davies, bod ganddo "bryderon difrifol" am y gwaith, yn enwedig ar ôl i lwybr Newbridge gerllaw gau oherwydd difrod storm.
"Rydym yn barod wedi gweld yr anrhefn sy'n digwydd pan mae'r A483 yn cael ei gau am waith dros nos," meddai.
"Gyda lorïau 44 tunnell yn gyrru ar hyd Stryd y Castell sy'n arwain at bont Llangollen, yn mowntio'r pafin ac yn bygwth cerddwyr - dydy hi ddim yn ddiogel."
"Rydym yn gweld traffig ddylai fod ar gefnffyrdd yn gyrru ar ffyrdd cul canol y dre'," ychwanegodd.
Dywedodd yr Asiantaeth Cefnffyrdd y byddai'r A483 yn ailagor am 06:00 pob dydd, a bod amseru'r gwaith wedi'i ddewis yn bwrpasol.
"Rydym yn gwneud y gwaith ym mis Medi er mwyn osgoi'r gwyliau Haf ond i fanteisio ar y tywydd cymharol dda rydym yn disgwyl adeg yma'r flwyddyn," dywedodd llefarydd.
"Mae angen offer arbenigol i arolygu'r draphont - mae'r draphont yn profi amodau tywydd dwys gan ei fod yn cario'r A483 yn uchel uwchben Afon Dyfrdwy.
"Dim ond yn ystod cyfnodau o wynt isel mae modd defnyddio'r offer yma," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2021
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021