'Tair blynedd o broblemau' heb drwsio ffordd gyswllt bwysig

  • Cyhoeddwyd
Difrod i'r B5605 yn Newbridge
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd tirlithriad yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr gan achosi difrod sylweddol i'r B5605 yn Newbridge

Mae gwleidyddion yn ardal Wrecsam yn galw am arian ar frys i ddechrau atgyweirio ffordd sydd ar gau ers misoedd.

Achosodd tirlithriad ym mis Ionawr ddifrod sylweddol i'r B5605 yn Newbridge, ond doedd y prosiect i'w drwsio ddim yn gymwys am gyllid o'r gronfa gymorth llifogydd gan nad oedd y digwyddiad wedi effeithio ar eiddo.

Rhybuddiodd AS lleol y gallai gymryd "hyd at dair blynedd" i wneud y "ffordd gyswllt bwysig" yn ddiogel eto.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn trafod ffyrdd eraill o ariannu'r gwaith gyda Chyngor Wrecsam.

Gallai'r gwaith gostio tua £1.5m yn ôl amcangyfrif cynnar y cyngor.

'Achosi pryder a phroblemau mawr'

Dywedodd David A Bithell, sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a thrafnidiaeth ar gabinet y sir, bod y sefyllfa'n "achosi pryder a phroblemau mawr" yn lleol, yn enwedig gan fod y ffordd yn cael ei defnyddio i ddargyfeirio'r traffig pan fo gwaith neu argyfwng ar briffordd yr A483 gerllaw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Bithell ei fod yn "siomedig" nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon rhoi'r arian i'r cyngor i drwsio'r ffordd

"Dwi ychydig yn siomedig nad oes gan Lywodraeth Cymru £500,000-£700,000 i'w roi i'r cyngor mewn argyfwng, o ystyried eu bod wedi ariannu prosiectau eraill, mwy ar draws Cymru," meddai.

"Dwi'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i roi'r arian i ni rŵan… fel bod modd ailagor y ffordd."

Mae'r awdurdod lleol yn deall bod cael cyllid gan y llywodraeth yng Nghaerdydd yn ddibynnol ar adolygiad gwariant Llywodraeth y DU - ond does dim disgwyl y byddan nhw'n gallu gwneud cais tan 2022.

Yn ôl Llyr Gruffydd, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, gallai hyn olygu anghyfleustra tymor hir i ardaloedd fel Newbridge, Cefn Mawr, Rhosymedre a'r Waun.

"Maen nhw'n dweud bod pres llifogydd ddim yn addas ar gyfer cael ei glustnodi i hwn - ond llifogydd sydd wedi achosi'r difrod, wrth gwrs," meddai.

"'Dan ni'n edrych ar gyfnod o hyd at dair blynedd o anghyfleustra eithriadol i bobl leol sy'n gorfod teithio'n bell iawn i fynd, hyd yn oed, i'r ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i nifer o bobl Wrecsam adael eu cartrefi oherwydd llifogydd a achoswyd gan Storm Christoph ym mis Ionawr

Digwyddodd y tirlithriad yn ystod Storm Christoph ac fe gafodd Cyngor Wrecsam £285,000 gan y llywodraeth i dalu am waith atgyweirio mewn rhannau eraill o'r sir.

Tra'n siopa yn Y Waun, dywedodd Anita Bowers, sy'n byw'n lleol, y dylai'r gwaith o drwsio'r B5605 fod wedi cychwyn bellach.

"Dylen nhw fod wedi ei wneud amser maith yn ôl, a dwi'n credu bod rhan fwyaf pobl ffordd hyn yn teimlo'r un fath," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddiodd Llyr Gruffydd y gallai ailagor y ffordd fod flynyddoedd i ffwrdd

Yn ôl Gareth Edwards, sydd hefyd o'r Waun, "allwch chi ddim beio [y llywodraeth] os dydyn nhw methu dod o hyd i'r pres yn syth" achos y gost.

"Ond mae angen ei ddatrys, achos mae'n ffordd sy'n cael llawer o ddefnydd," ychwanegodd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd cais Cyngor Wrecsam i'r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd yn aflwyddiannus gan mai ariannu gwaith atgyweirio sydd o fudd i eiddo yn unig mae'r rhaglen.

"Rydym nawr yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam i ddod o hyd i ffordd arall o ariannu'r prosiect."