Gweithiwr gofal 'wedi mynd i gartrefi' er amheuon Covid
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawiad wedi clywed bod gweithiwr gofal wedi parhau i gynnal ymweliadau cartref er i'w meddyg teulu ddweud bod angen iddi hunan-ynysu yn sgil amheuaeth ei bod â Covid-19.
Mae Samantha Gould yn wynebu saith cyhuddiad, gan gynnwys "mynd i gartref(i) defnyddwyr gwasanaeth anhysbys pan roedd gofyn i chi hunan-ynysu" tra'n gweithio i gwmni 1st Grade Care yng Nghaerdydd.
Cafodd ei hatal o'i gwaith am 18 mis gan dribiwnlys yn gynharach eleni yn dilyn yr ymweliadau.
Mae disgwyl i'r Gwrandawiad Addasrwydd I Ymarfer - sy'n cael ei gynnal gan y corff sy'n arolygu'r sector, Gofal Cymdeithasol Cymru - bara chwe diwrnod.
Clywodd y gwrandawiad mai cynllunydd ardal oedd Ms Gould, gan weithio'n bennaf yn y swyddfa, ond roedd hefyd yn rhoi "gofal uniongyrchol i unigolion" yn achlysurol.
Cafodd orchymyn i gysylltu â'i meddyg teulu ar ôl cyrraedd y gweithle, yn "sigledig a dryslyd", tair awr yn hwyr ym Mehefin 2020, yn ôl ei rheolwr, Toni Sartin.
Dywedodd y meddyg bod Covid arni a bod angen iddi hunan-ynysu.
'Dim angen prawf'
Cafodd Ms Sartin gyngor i gau'r swyddfa a gweithio o adref, ond dywedodd Ms Gould wrth ei chyflogwr nad oedd y meddyg yn rhoi prawf Covid iddi gan nad oedd yn arddangos symptomau'r feirws.
Trefnodd Ms Sartin brofion ar gyfer ei hun a'i gweithwyr, ac fe dderbyniodd ganlyniad prawf ei hun y diwrnod canlynol. Dywedodd Ms Gould nad oedd wedi derbyn canlyniad ei phrawf hithau.
Dywedodd Ms Sartin wrthi bod angen iddi dynnu ei hun o'r rota gofal am ei bod yn dal yn hunan-ynysu.
Clywodd y gwrandawiad bod yna ddigon o staff i ddygymod â hynny, ac roedd Ms Sartin ar ddeall na fyddai Ms Gould felly'n cynnal ymweliadau cartref am y tro.
Ond honnir bod Ms Gould wedi cynnal nifer o ymweliadau, gan eu cofnodi yn systemau mewnol y cwmni.
Dywedodd Ms Sartin ei bod "yn gegrwth" pan glywodd bod Ms Gould wedi parhau gyda'r ymweliadau.
"Gofynnais pam - roedd yn gwybod bod disgwyl iddi hunan-ynysu," meddai. "Gofynnais eto hefyd a oedd wedi cael canlyniad negatif.
"Roedd yn ymddiheurol, cadarnhaodd nad oedd wedi cael canlyniad prawf, a'i bod yn teimlo'n well ac felly wedi meddwl bod hi'n iawn i gynnal ymweliadau."
Nid oedd Ms Gould yn bresennol yn y gwrandawiad, ond mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd iddi gael gwybod dros y ffôn bod ei phrawf Covid yn negatif, ac fe rannodd hyn gyda'i rheolwr.
Dywedodd bod disgwyl copi caled o ganlyniad prawf ar gyfer cofnodion, ond mynnodd bod y sgwrs y mae Ms Sartin yn cyfeirio ato "heb ddigwydd".
Yn nhribiwnlys y llynedd dywedodd Ms Gould ei bod "wedi cadw pellter" a gwisgo ffedog, menig a masg yn ystod ymweliadau.
Honiadau eraill
Clywodd y gwrandawiad dystiolaeth gan Naomi Anderson, cydweithwyr yr oedd Ms Gould yn ei chysgodi gan ei bod newydd ymuno â'r cwmni.
Dywedodd nad oedd Ms Gould wedi ymwneud â'r gofal yn uniongyrchol.
Honnir hefyd bod Ms Gould wedi gwneud cais ffug i hawlio taliad am waith gan aelod staff anghymwys, a chamarwain ei chyflogwr newydd, Care Cymru, ynghylch yr ymchwiliad i'w hymddygiad.
Clywodd tribiwnlys y llynedd bod Ms Gould wedi dweud, mewn galwad ffôn gyda swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru ym Medi 2020, na wyddai ei bod wedi ei hatal, a'i bod wedi bod "yn agored" gyda'i chyflogwr newydd ynghylch yr ymchwiliad.
Ddyddiau'n ddiweddarach, fodd bynnag, dywedodd aelod staff Care Cymru wrth y corff arolygu nad oedden nhw'n gwybod am yr ymchwiliad, gan arwain Gofal Cymdeithasol Cymru i ymchwilio a fu'n "onest" gyda'r cwmni.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021