Apêl i ddod o hyd i ddyn ifanc sydd ar goll ers pythefnos

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Jamie Grimwood yn cael ei weld mewn gorsaf betrol

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am help y cyhoedd i ddod o hyd i ddyn ifanc sydd ar goll ers dros bythefnos.

Cafodd Jamie Grimwood, 23, ei weld ddiwethaf yn y Fflint ar nos Lun, 23 Awst.

Ymwelodd â siop gorsaf betrol Esso yng Nghei Connah am 19:36, gan brynu potel o ddŵr a cherdyn sim ar gyfer ffôn symudol, cyn gyrru i ffwrdd i gyfeiriad y Fflint.

Am 20:14 y noson honno, gwelwyd car Jamie yn mynd i mewn i faes parcio Logistics, wrth ymyl yr orsaf dân, ar Stryd Caer, y Fflint.

Daeth ei deulu o hyd i'w gar yn y maes parcio y diwrnod wedyn gyda'r sim heb ei agor a'i ffôn ar ôl ynddo.

Roedd yn gyrru Audi A3 llwyd tywyll (LG02 JAY) gydag olwynion du a rheiliau to arian.

Mae Mr Grimwood yn dad i un ac yn dod o Runcorn yn Sir Gaer. Mae'n 5"9, mae ganddo wallt brown ac mae'n ymddangos ei fod yn gwisgo 'hwdi' Under Armour du, siorts du a threinyrs du.

Mae'r heddlu bellach yn apelio am help i ganfod allweddi car Audi (i'w weld yn y fideo), cerdyn banc Halifax ac e-sigarét mawr, du.

Pynciau cysylltiedig