Ffoaduriaid cyntaf o Afghanistan yn cyrraedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffoaduriaid cyntaf wedi cyrraedd Cymru o Afghanistan ar ôl iddyn nhw ffoi o Kabul wedi i'r Taliban gymryd rheolaeth o'r wlad.
Dywed Llywodraeth Cymru bod 50 o deuluoedd, neu oddeutu 230 o bobl, yn cael eu hailgartrefu ar draws y wlad fel rhan o'r cynllun Cenedl Noddfa.
Mae'r "rhan fwyaf" o'r bobl sydd wedi cyrraedd "wedi cefnogi unedau'r Lluoedd Arfog yng Nghymru yn uniongyrchol" yn eu mamwlad dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae Urdd Gobaith Cymru ymhlith yr asiantaethau sy'n rhan o'r cynllun, gan ddarparu llety i'r teuluoedd yn y lle cyntaf wedi iddyn nhw gyrraedd.
Mae'r cynghorau sir, y Weinyddiaeth Amddiffyn, sefydliadau cefnogi ffoaduriaid ac Afghaniaid sydd eisoes yn byw yng Nghymru hefyd yn rhan o'r trefniadau.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymroddi i ailgartrefu 20,000 o bobl o Afghanistan dros y pum mlynedd nesaf.
"Heddiw, rydym yn croesawu'r teuluoedd a'r unigolion sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn Afghanistan," meddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Dywedodd bod ymrwymiad i wneud popeth posib i sicrhau bod cyfieithwyr, ffoaduriaid a theuluoedd o Afghanistan yn cael eu croesawu.
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi croeso cynnes yn y tymor byr a bydd ein cymunedau, heb os, yn cael eu cyfoethogi gan eu sgiliau a'u profiadau yn y dyfodol agos iawn," meddai.
"Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid... Rwyf hefyd am gofnodi fy niolch arbennig i Urdd Gobaith Cymru am gael y weledigaeth ddyngarol i sicrhau y gallwn ddarparu croeso arbennig Cymreig i'n ffrindiau newydd o Afghanistan."
Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: "Fel sefydliad, rydym yn falch o helpu ac rydym yn parhau i rannu â'n haelodau bwysigrwydd teyrngarwch i wlad a diwylliant ond hefyd i ddynoliaeth a lles uwch.
"Mae gennym rwymedigaeth foesol fel sefydliad ieuenctid cenedlaethol i gefnogi prosiectau dyngarol a chynnig llaw o gyfeillgarwch a chefnogaeth i gymuned Afghanistan yn eu cyfnod o angen."
'Barod i chwarae ein rhan'
Un sydd wedi cyfarfod rhai o'r ffoaduriaid newydd yw prif weithredwr mudiad Cytun, y Parchedig Aled Edwards.
Dywedodd bod hynny'n "brofiad eithriadol o rymus", ac yn "gysur mawr i ni o weld bod ni yma yng Nghymru wedi rhoi darpariaeth dda iddyn nhw a chroeso fel fysech chi yn disgwyl i mewn i'n gwerthoedd ni".
"O'i derbyn nhw a siarad gyda nhw yn fwyaf arbennig neithiwr, a chael sgwrs hefo'r rhieni gweld y plant yn mwynhau cwmni ei gilydd, ac yn chwarae dan warchodaeth Gymreig unigryw yr Urdd, roedd hwnna yn brofiad braf iawn."
Dywedodd y byddai unrhyw anghenion am nwyddau neu gefnogaeth yn cael ei asesu dros y dyddiau nesaf, ac ar hyn o bryd "gofalu bod nhw'n ddiogel a bod nhw'n cael y ddarpariaeth gywir" ydy'r flaenoriaeth.
Dywedodd y Cyrnol Sion Walker, Dirprwy Comander Brigâd 160 (Cymru) bod "cysylltiadau hanesyddol uniongyrchol" rhwng y lluoedd arfog yng Nghymru a llawer o'r teuluoedd sy'n dod i Gymru.
"Byddant wedi gweithio ochr yn ochr â'i gilydd yn ystod cyfnodau anodd iawn yn Afghanistan," meddai. "Mae ein hymwneud yn gydnabyddiaeth o'r gefnogaeth a roddwyd a'r cyfeillgarwch a ddatblygwyd yn ystod yr amseroedd hynny."
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas bod yr awdurdod "wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni drwy'r amser i sicrhau ein bod yn barod i chwarae ein rhan... i leddfu'r argyfwng ofnadwy hwn.
"Mae gan y ddinas hanes hir a balch o groesawu pobl o bob hil a chred i'n dinas a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pob un o'r teuluoedd hyn yn teimlo'r croeso hwnnw o'r diwrnod cyntaf iddynt gyrraedd.
"Rydym yn eu croesawu i gyd, gan wybod y byddant yn dod yn aelodau pwysig a gwerthfawr o'n cymuned fywiog, amlddiwylliannol cyn bo hir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2021
- Cyhoeddwyd17 Awst 2021
- Cyhoeddwyd16 Awst 2021