Y Bencampwriaeth: Nottingham Forest 1-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Rubin ColwillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Rubin Colwill o fewn munud ar ôl dod oddi ar y fainc

Daeth y Cymro ifanc, Rubin Colwill oddi ar y fainc a sgorio ddwywaith i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd yn Nottingham Forest ddydd Sul.

Fe roddodd capten Forest, Lewis Grabban y tîm cartref ar y blaen ar ôl 23 munud yn y City Ground.

Ond fe gyfunodd yr eilyddion Kieffer Moore a Colwill i unioni'r sgôr yn yr ail hanner - 53 eiliad ar ôl i Colwill ddod i'r maes.

Chwarter awr wedyn fe sgoriodd Colwill ei ail gydag ergyd troed chwith nerthol i gornel y rhwyd.

Roedd yr ymosodwr 19 oed o Gastell-Nedd, sydd wedi ennill tri chap dros Gymru, yn un o bum Cymro yn nhîm Caerdydd.

Yn eu mysg yr oedd Sam Bowen, mab cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Jason.