Y cyn-flaenwr Owain Williams wedi marw yn 56 oed

  • Cyhoeddwyd
Owain Williams yn sgorio dros Gaerdydd yn erbyn Llanelli ym Mai 2000Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Owain Williams yn sgorio dros Gaerdydd yn erbyn Llanelli ym Mai 2000

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn-flaenwr rygbi Owain Williams, sydd wedi marw yn 56 oed.

Chwaraeodd i dimau Caerdydd, Pen-y-bont a Chrwydriaid Morgannwg, ac fe gafodd un cap dros ei wlad, yn erbyn Namibia yn Windhoek yn 1990, gan sgorio un o'r ceisiau.

Bu hefyd yn gapten tîm saith bob ochr Cymru ac fe gynrychiolodd y Barbariaid.

Roedd yn frawd i gyn-flaenwr Cymru a'r Llewod, Gareth Williams, a fu farw yn 63 oed yn 2018.

Mewn gyrfa o fwy na 500 o gemau dros 18 mlynedd, fe enillodd Gwpan Cymru ddwywaith, a'r gynghrair gyda Chaerdydd.

Chwaraeodd yn rownd derfynol gyntaf un Cwpan Heineken yn 1996, pan gollodd Caerdydd o drwch blewyn i Toulouse.

'Un o chwaraewyr chwedlonol Parc yr Arfau'

Roedd y tad i bedwar o blant wedi byw gyda chanser ers blynyddoedd, ers gorfod tynnu ei lygad dde yn 2006 pan ddaeth i'r amlwg bod ganddo diwmor.

Erbyn hyn mae ei fab 20 oed, Teddy Williams, yn chwaraewr ail-reng addawol gyda Chaerdydd ac mae hefyd wedi bod yn rhan o garfan dan-20 Cymru.

Cyhoeddodd y clwb ddydd Llun: "Gyda thristwch mawr yr ydym wedi cael gwybod am farwolaeth Owain Williams yn dilyn brwydr hir gyda chanser.

"Ymddangosodd Owain 221 o weithiau gyda'r tîm cyntaf a sefydlu ei hun fel un o chwaraewyr chwedlonol Parc yr Arfau.

"Mae ein meddyliau diffuant gyda Teddy a'r teulu Williams."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Owain Williams yn chwarae i Ben-y-bont yn erbyn Maesteg yn 1991

Dywedodd Llywydd Oes Gleision Caerdydd, Peter Thomas bod ei yrfa wedi pontio o'r oes amatur i'r oes proffesiynol.

"Roedd wastad yn un o'r enwau cyntaf un i gael ei enwi yn y tîm nôl yn 1996, oherwydd ei ymroddiad, proffesiynoldeb a athletiaeth.

"Hyd heddiw, mae Owain heb os yn un o'r blaenwyr rheng-ôl gorau y cafodd Caerdydd erioed. Roedd yn chwaraewr ac yn berson rhagorol.

"Bydd yn cael ei golli gyda thristwch ganddom ni oll, yn arbennig ag yntau mor ifanc. Roedd yn chwaraewr arbennig iawn ac yn uchel ei barch ymhlith pawb, boed yn chwarae gyda nhw neu yn eu herbyn."

Yn ôl cyn-gapten Cymru, Jonathan Davies roedd gan Owain Williams allu rhyfeddol i ddarllen y gêm "ac roedd yn aelod gwych o'r garfan oherwydd ei ffraethineb sydyn, sych".

Dywedodd cyn gyd-chwaraewr arall, cyn wythwr Cymru, Emyr Lewis ei fod "yn gymeriad go iawn ar ac oddi ar y cae ac yn chwaraewr ardderchog. Roeddwn yn caru bod yn ei gwmni ac fe wnaeth ei dynnu coes gynyddu'r mwynhad a'r profiad o chwarae i Gaerdydd."

'Wastad yn rhoi 100%'

Ar ôl ymddeol o'r gêm yn 2001, fe weithiodd Owain Williams yn y byd teledu, gan adeiladu setiau ar gyfer rhaglenni S4C.

Am y 16 mlynedd diwethaf fe weithiodd i gyfres ddrama'r BBC, Casualty ble roedd yn ddylunydd cynhyrchu.

Be hefyd yn hyfforddi cenedlaethau newydd o chwaraewyr yng Nghaerdydd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Clwb Rygbi Adran Iau

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Clwb Rygbi Adran Iau

Dywedodd Dr Huw Jones, cyn brif weithredwr Chwaraeon Cymru ar Twitter: "Mae yna chwaraewyr rydych yn eu hedmygu a chwaraewyr rydych yn eu caru. Roedd Owain Williams yn bendant yn yr ail o'r ddau gategori."

Roedd cefnogwyr yn ei garu, meddai, "oherwydd roedd wastad yn rhoi 100%... Fe wnaeth wahaniaeth yn ei fywyd byr."

Pynciau cysylltiedig