Carcharu cyn-hyfforddwr nofio am ymosodiadau rhyw ar blant
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-hyfforddwr nofio wedi cael ei ddedfrydu i naw mlynedd o garchar am ymosodiadau rhyw ar dri o blant.
Cafwyd Tom Piggot, 21 oed o'r Trallwng, yn euog o 10 cyhuddiad - gan gynnwys dau achos o dreisio - yn dilyn achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Gorffennaf.
Cafwyd yn euog hefyd o fod â lluniau a fideos anweddus o blant yn ei feddiant - nifer ohonynt yn y categori mwyaf difrifol.
Roedd Piggot wedi gwadu'r holl honiadau ac yn mynnu bod rhywun wedi hacio ei ddyfeisiau cyfrifiadurol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Steve Williams o Heddlu Dyfed-Powys na fyddai wedi bod yn bosib sicrhau euogfarn heb "gryfder a dewrder" y dioddefwyr.
Ychwanegodd bod rhai o'r lluniau ar ddyfeisiau Piggot "ymysg y gwaethaf" y mae wedi'u gweld erioed.