Gary Slaymaker: Llythyr garu i'r sinema
- Cyhoeddwyd
Mae'r misoedd diwethaf wedi gweld sinemâu yng Nghymru'n ailagor wrth i reolau Covid lacio. Un sy'n arbennig o falch i weld y drysau'n agor ac i brynu tocyn i weld ffilm eto yw'r guru ffilmiau Gary Slaymaker.
Mewn llythyr garu at fyd y sinema, mae Gary'n rhannu'r hyn mae e wedi ei golli a beth mae sinema'n golygu iddo:
Annwyl Sinema,
Dim ond nodyn bach byr i 'weud bod hi'n hyfryd dy weld ti eto, ar ôl blwyddyn a hanner - dim ond ti, fi, a'r Weddw Ddu... a llond dyrnaid o bobol eraill, wedi ymbellhau yn gymdeithasol; hefyd yn mwynhau'r profiad o fod yn dy gwmni unwaith eto.
Mae wedi bod yn gyfnod digon anodd i'r ddau ohono' ni diolch i'r pandemig 'ma, ond fe ddethon ni drwyddi, a nawr allwn ni ail-gydio yn y gyfeillgarwch arbennig 'ma.
Wrth gwrs, wyt ti a fi wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd lawer. Wyt ti'n cofio'r adeg pan o ni'n wyth mlwydd oed, ac yn gwylio Chitty Chitty Bang Bang yn y Commodore, Aberystwyth? Ynghanol un o'r golygfeydd mwya' cyffrous yn y ffilm, ath y sgrin yn dywyll, y geiriau intermission yn ymddangos, ac wedyn y llenni'n cau.
A fyna ddechreuodd y conan a'r sgyrnigan gan y Slaymaker bach. A hyd heddi, wy'n câl hi'n anodd delio gyda intermission; ond wy'n deall bod angen seibiant arno ti o bryd i'w gilydd - whare teg wyt ti'n gweitho o fore gwyn tan nos.
Fues ti gyda fi yn yr Odeon, Abertawe, ar gyfer date movie, pan fues i'n gweld Aliens (ei dewis hi, gyda llaw); a bob tro odd 'na olygfa arswydus, odd hi'n gafael yn dynn yn fy llaw. Diolch i ti am hwnna.
Ti'n cofio'r noson fuodd criw o ni'n gweld Dumb and Dumber yn y Cannon, Caerdydd... a finne wedi wherthin gymaint, yng nghwmnie ffrindie da, nes i bisho'n hunan, yn llythrennol?
O ti gyda fi yn Efrog Newydd, pan es i, a tri o'n ffrindie agosa, i weld The Matrix. 'Na beth odd profiad nath chwalu'n pennau ni i gyd. Ac wrth gwrs, o ti'n cadw llygad arna'i bob tro o'n i'n cyflwyno wejen newydd i ti.
Diolch
Odd Ghost yn ddewis da, fel wy'n cofio... y ffilm arswyd, Hereditary - ddim cymaint. Y gwir plaen amdani yw; wyt ti wedi bod yn ffrind cyson ar gyfer rhai o'r nosweithi mwya' difyr (ac annifyr, weithiau) wy 'di cael dros y blynyddoedd, ac mae arna'i ddiolch anferth i ti am hynny.
Man a man i fi fod yn onest gyda ti - dros y flwyddyn a hanner ddiwetha', 'wy heb fod yn gwbwl ffyddlon. Pan o ti ddim yna i fod yn gyfaill, fuodd rhaid i fi droi at Netflix, Amazon Prime, a ffrydwyr tebyg eraill.
Ond y gwir amdani yw, o nhw ffili cystadlu 'da'r hwyl 'wy 'di câl yn dy gwmni di. Dyw eistedd o flaen sgrin cyfrifiadur, neu o flaen y teledu, ddim yn cymharu 'da'r elfen gymdeithasol o fod yn rhan o'r profiad sinematig. Heb sôn am y systemau sain godidog, a gweld 'blocbyster' rhyfeddol ar y sgrin fwya' posib. Ond os alle ti sorto mâs y clowns sy'n mynnu defnyddio'i ffonau symudol yn ystod ffilm, fydden i'n ddiolchgar iawn i ti.
Cyfeillgarwch
Ond yr un peth 'wy ishe diolch i ti, yn fwy nag unrhyw beth, yw'r ffaith bod dy gyfeillgarwch cyson di wedi rhoi gyrfa o 33 mlynedd i fi (hyd yn hyn) fel adolygwr ffilm.
Rhyngo ti a fi, nelen i'r jobyn am ddim; ond paid gweud 'tho neb, achos 'wy dal yn gweld hi'n rheswm i wenu'n llydan, bo' fi'n câl yn nhalu i ddod i weld ti yn rheolaidd.
'Wy 'di gweld sioeau'r wasg yn gynnar y bore; yn hwyr y nos; a wedi mwynhau penwythnosau difyr yn dy gwmni, ledled Prydain; yn eistedd i wylio pump neu chwech ffilm mewn diwrnod, dros benwythnos hir. Yn ystod yr adegau hynny, fues i'n cyfarfod bobl newydd drwy'r amser, ond ti odd yr un peth cyson yn ystod pob profiad.
Ti'n cofio'r adeg 'na yn Nottingham pan o'n i yng nghwmni llond ystafell o adolygwyr arall, yn gwylio Up gan Pixar? 'Wy'n cofio troi rownd yn fy nghadair, rhyw bum muned i fewn i'r ffilm, a gweld pob gwyneb yn y rhesi tu cefn yn disgleirio gyda dagrau. Rhai o'r gohebwyr mwya' sur, di-hud, a soffistigedig 'wy 'di cwrdd, yn llefen fel babanod. Ma' profiadau fyl 'na yn rhywbeth i drysori.
'Wy'n croesi'n mysedd, fyddai'n gweld ti'n lawer fwy aml nawr; a whare teg, wyt ti wedi rhoi digon o rhesymau i fi gadw cwmni gyda ti dros y misoedd nesa - y Bond newydd (Tair awr a thri chwarter? Myn air 'da nhw, nei di?), dwy ffilm Marvel i gloi'r flwyddyn, Dune, ac wrth gwrs The Matrix Resurrections (Ah, cofio Efrog Newydd?).
Ond y peth pwysica' yw, byddai'n dod i weld ti pob wythnos eto, fel yn yr hen ddyddie. Ond y peth gorau ambiti'n perthynas ni - s'dim ots os na welwn ni'n gilydd am sbelen hir; pan ni nôl gyda'n gilydd mae fel 'se dim byd wedi newid. Na'r peth gorau ambiti ffrindiau wyt ti wedi nabod cyhyd.
Ta beth, fe welai di bore dydd Gwener. Edrych ar ôl dy hunan, a diolch eto am bopeth.
Cofion cynnes,
Gary