Slaymaker: Y 'binjo' wnaeth gynnal fi yn 2020

  • Cyhoeddwyd
Gary Slaymaker

Gyda'r pandemig yn gorfodi pawb i dreulio mwy o amser gartref, mae'r teledu wedi bod yn ddihangfa bwysig i nifer ohonom.

Un sy' wedi mwynhau'r cyfle i ymgolli ei hun ym myd adloniant yw'r guru ffilmiau Gary Slaymaker, sy'n rhannu'r rhaglenni a'r boxsets sy' werth eu gwylio yn y cyfnod clo.

Ch'mod, wy'm yn siŵr ble'r i ni nawr o ran cyfnodau clo? Odi ni ynghanol y bedwaredd, neu'r bumed, neu odi hon wedi bod yn un gyfnod sylweddol, gyda time off for good behaviour yn ei chanol hi?

Beth bynnag yw'r ateb, fel nifer i berson arall, wy 'di troi at y gwasanaethau ffrydio i gadw'n hunan yn (gymharol) gall ac yn ddiddan yn ystod y flwyddyn aeth heibio.

Rheolau

Wnes i osod canllawiau i'n hunan o'r cychwyn, wrth chwilio am adloniant ar y sianeli lloeren, Netflix, Amazon Prime, a'r gweddill.

Dim rhaglenni dogfen - o'dd realiti bywyd yn ddigon anodd yn barod, heb ychwanegu at y mŵd tywyll gyda dosed arall o realaeth.

Un o'r rhesymau, fydden i'n barnu, mae fi yw un o'r ychydig bobol ym Mhrydain sydd heb wylio'r gyfres, Tiger King.

Ac ar ôl clywed ffrindiau'n trafod y peth, wy'n weddol siŵr mai fi wnaeth y penderfyniad iawn fan hyn.

Ffynhonnell y llun, Netflix
Disgrifiad o’r llun,

Tiger King

Nawr, wy'n gweud DIM rhaglenni dogfen, ond fe wnes i wylio ambell ddarn o waith o fyd chwaraeon.

I fi, ma' chwaraeon yn perthyn fwy i genre drama a chyffro nag i ddogfen.

A 'wy'n falch iawn benderfynes i ar yr eithriad yma, neu fydden i heb gael cyfle i fwynhau The Last Dance - cyfres 10 pennod oedd yn olrhain hanes tîm pêl fasged y Chicago Bulls yn ystod tymor 1997-98; ond oedd hefyd yn adrodd hanes Michael Jordan a'i sgiliau rhyfeddol.

Nawr, 'wy ddim yn ffan o bêl fasged o gwbwl, ond r'odd hon yn gyfres rhyfeddol o gignoeth a ddifyr, yn edrych ar awch cystadlu, a'r berthynas rhwng unigolion talentog, fel rhan o fframwaith tîm.

Bydden i hefyd yn tynnu'ch sylw chi at y ffilm ddogfen The Battered Bastards of Baseball ar Netflix. Hanes y Portland Mavericks a'i perchennog Bing Russell (tad yr actor Kurt Russell).

Yr underdog story orau i fi weld ar sgrin ers blynyddoedd maith.

Hiwmor, angerdd, triciau dan dîn, a rhestr o gymeriadau lliwgar - se chi'n trial ysgrifennu hon fel drama, fydde neb yn fodlon derbyn bod hi'n wir.

'Binjo'

Bingeing, neu falle 'binjo' (i ddefnyddio Cymraeg bratiog) o'dd y peth wnaeth gynnal fi drwy 2020.

Cyfresi newydd alle chi ymdrochi ynddyn nhw am ddiwrnod cyfan.

Ffynhonnell y llun, Sky UK Ltd
Disgrifiad o’r llun,

Cyfres Gangs of London

Ar frig y rhester 'na o'dd ail gyfres The Mandalorian (OMB Baby Yoda!!), Gangs of London (wedi ei chreu gan y Cymro o Hirwaun, Gareth Huw Evans), ail gyfres The Umbrella Academy (stori hollol bizzare am griw o uwch-arwyr dysfunctional), Cobra Kai (cyfres nath ddeillio o ffilmiau The Karate Kid), a The Queen's Gambit (i fi, y ddrama newydd orau i ymddangos ar unrhyw sianel llynedd).

Y drafferth yw mai cyfresi lled fyr o'dd rhain i gyd - deg i ddeuddeg pennod ar y mwya'. Er enghraifft, fe wylies i drydedd gyfres Cobra Kai i gyd mewn un prynhawn Sul glawiog.

Felly, mawr yw fy niolch i sianel arlein All 4, am gadw fi'n gytun iawn trwy gydol 2020 gyda'i cyfresi cyfan o Buffy the Vampire Slayer, Angel, a'r ddrama wleidyddol orau yn hanes teledu, The West Wing.

R'odd ail-gydio yn Buffy (fel petai) yn un o'r pethe nath wirioneddol llonni fy nodyn yn ystod y flwyddyn. Storïau difyr, cymeriadu arbennig, deialog ffraeth, a dim gwendidau yn unrhyw un o'r cyfresi.

Fel 'y boi ffilmiau' ar Radio Wales dyddie hyn, fues i'n lwcus iawn bod y gwasanaethau ffrydio wedi llwyddo i gymryd lle yr holl sinemâu oedd wedi cau am fisoedd yn ystod y cyfnodau clo.

O fis Ebrill tan ddiwedd y flwyddyn, fues i'n troi at Netflix, Prime, Disney+, Shudder, ac amryw blatfform arall i rannu ffilmiau o werth gyda'r gwrandawyr.

Wrth edrych nôl nawr, r'odd hi'n flwyddyn arbennig i Netflix; wnaeth gynnig ffilmiau rhyfeddol fel The Trial of the Chicago Seven, Da 5 Bloods, a Mank - nath bob un o'r rhain ymddangos ar fy rhestr o'n 10 hoff ffilm o 2020.

Clasuron Clic

Whare teg, nath S4C hefyd gamu i'r adwy, drwy ail-ryddhau nifer o glasuron ar wefan Clic.

Y ffilm arswyd nath greu trawma i nifer ohonon ni yn ein ieuenctid - O'r Ddaear Hen.

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

Y ffilm gomedi, Rhosyn a Rhith, o'dd yn berchen yn berffaith i linach ffilmiau Ealing; a'r ffilm rhyfedd, yn delio gyda llofrudd cyfres yn cael gwared ar rai o enwau mwya' Cymru - Gwaed ar y Sêr.

Ond, pe bawn i'n dewis un cyfres wnaeth fwydo'r dychymyg, yr enaid, a'r bola yn ystod y cyfnod clo, Bwyd Epic Chris fydde honna.

Chris Roberts, y Cofi dre, a'i frwdfrydedd heintus am goginio, a'i ffordd naturiol a digri o gyfleu ryseitiau anhygoel o'dd arwr 2020 i fi.

R'odd y rhaglenni ei hunen yn ddifyr, ond 'wy 'di ail-greu rhai o ryseitiau Chris yn ystod yr adeg... a mae e'n iawn... mae ei fwyd e YN next level. Felly diolch am y ffîdad a'r diddanwch, Mr. Roberts.

Hefyd o ddiddordeb