All Hollywood wneud acen Gymreig lwyddiannus?

  • Cyhoeddwyd

Yn y ffilm newydd am y dyn sy'n gallu siarad ag anifeiliaid, 'Dolittle', er mawr syndod i nifer, mae gan y prif gymeriad acen de Cymru.

Mae'n debyg fod yr actor sy'n ei bortreadu, Robert Downey Jr., wedi penderfynu rhoi her ychwanegol iddo'i hun, a cheisio taclo un o'r acenion anoddaf i'w meistrioli.

Nid dyma'r tro cyntaf i un o fawrion Hollywood roi ymgais ar acen Gymreig, ond fel mae'r gohebydd ffilmiau, Gary Slaymaker, yn ei ddweud, dydi pob ymgais ddim wedi bod yn llwyddiant ysgubol...

Disgrifiad o’r llun,

Robert Downey Jr. yw Doctor Dolittle mewn ffilm sy'n cael ei ryddhau ddechrau 2020

'They're all Celts, aren't they'

Wedi i'r trailer ar gyfer y ffilm, Dolittle, gyda Robert Downey Jr. ymddangos yn ddiweddar, ro'dd 'na dipyn o sôn am y ffaith fod Downey Jr. yn defnyddio acen Gymreig ar gyfer y cymeriad.

'Wy 'di gwylio'r darn hyrwyddo 'ma rhyw ddeg o weithiau, bellach, a 'wy dal ddim callach os mai Cymro yw e, neu beidio.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Movieclips Trailers

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Movieclips Trailers

Ond wedyn, ma' Hollywood wedi cael trafferth 'da'r acen Gymraeg ers degawdau. Ewch nôl i 1941, pan ryddhawyd y ffilm How Green Was My Valley, a ma'r 'Gwmrâg' fyna yn slap-dash i ddweud y lleia'.

O, ma' 'na ddigon o "look yous" ac "isn't it boyos" i gadw'r ystrydeb i fynd, ond ro'dd y cast, gan amla', yn Wyddelod, neu o drâs Gwyddelig.

Ro'dd y cyfarwyddwr, John Ford, yn disgrifio'i hun fel Irish-American, a phan ofynnwyd iddo, rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, pam na gyflogodd e Gymry go iawn yn hytrach na Gwyddelod ar gyfer y ffilm yma, ei ateb swrth oedd, "Hell, they're all Celts, aren't they?".

Ffynhonnell y llun, Mondadori Portfolio
Disgrifiad o’r llun,

Prin oedd yr actorion Cymreig yn 'How Green Was My Valley' - ffilm sydd wedi ei leoli mewn pentref glofaol yng nghymoedd y de

Byth ers hynny, ma'r Cymry wedi cael cynrychiolaeth digon shabi ar y sgrin fawr. Ond pam?

Wel, oherwydd natur cerddorol ei naws, ma'r acen yn anodd i actor ei feistroli. Er bod gwraidd yr iaith yn perthyn i iaith y Gwyddel, ma'r Gymraeg yn fwy dirgel a chudd (yn yr ystyr hudol, chi'n deall).

Disgrifiad o’r llun,

Dydi acenion nifer o sêr Hollywood ddim wedi creu argraff ar Gary Slaymaker

Yn ôl yr hyfforddwraig ieithoedd, Penny Dyer, "The Welsh language has the loosest intonation system in the whole of the British Isles".

Yn ôl pob sôn, yr unig acen sydd bron mor anodd i actor ddysgu yw Afrikaans - sydd falle'n esbonio pam 'nath Julian Lewis-Jones cystal job ohoni yn Invictus... yn wahanol i Matt Damon.

'Ymdrechion tila'

Ond ma' 'na ddigon o ffilmie wedi ymddangos dros y blynyddoedd gyda ymdrechion tila iawn gan sêr mawr i ddal naws ein hiaith.

Colm Meaney yn The Englishman Who Went Up a Hill and Came Down a Mountain (brawychus o wael); William Hurt yn Second Best (gyda acen sy'n gymysgedd o Merthyr, Mullingar, a Mumbai); a hyd yn oed Tom Hardy yn Locke. (Er, chwarae teg, dda'th Tom yn agosach i ddal yr acen nag unrhyw un arall hyd yn hyn.)

Ffynhonnell y llun, Michael Ochs Archives
Disgrifiad o’r llun,

Mae William Hurt yn chwarae dyn sydd yn ceisio mabwysiadu bachgen ifanc yn 'Second Best'. Mae'n debyg nad oes ganddo lawer o syniad o ble mae'n dod...

Y drafferth yw, gyda'r iaith Gymraeg dan fygythiad cyson ers dechrau'r 16eg ganrif, 'y ni (ac 'itha reit, hefyd) yn fwy sensitif pan mae'n dod i glywed rhywun yn gwneud llanast llwyr o'r acenion cenedlaethol.

Ond eto, gan bo' ni ddim yn clywed yr acen Gymreig mor aml â hynny ar y sgrin fawr, do's neb yn talu sylw i'r cwynion.

Allwch chi fynd nôl cwpwl o flynyddoedd pan ro'dd Mickey Rourke yn awyddus i wneud ffilm am fywyd Gareth 'Alfie' Thomas. Haleliwia, medde pawb - stori wir, stori dda; ac un fydd yn rhoi Cymru ar y map.

Ffynhonnell y llun, Alberto E. Rodriguez
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Thomas a Mickey Rourke: yr unig debygrwydd yw'r lliw oren

Unwaith eto, 'nath Rourke ffindo hi'n amhosib i ddysgu'r acen, a felly fe newidiwyd y stori i un ffuglen am chwaraewr rygbi o Iwerddon - odych chi'n dechrau gweld patrwm fan hyn?

Er, ro'dd acen Gwyddelig Mickey yn A Prayer for the Dying yn ddigon sigledig, wedyn fydden i ddim yn dala'n anadl ar gyfer y ffilm yma, 'chwaith.

Ei adael i'r Cymry...?

Y gwir amdani yw mai ni'r Cymry yw'r rhai gorau i gynnig acenion ein hunen i'r byd. Ma' Rhys Ifans wedi gwneud hyn fwy nag unwaith yn ei yrfa, a 'nath Peter Jackson fynnu bod Luke Evans yn cadw'i acen Gymraeg wrth ffilmio cyfres The Hobbit.

Ffynhonnell y llun, Mark Davis
Disgrifiad o’r llun,

Cadwodd Luke Evans ei acen Aberbargoed ar gyfer ei bortread o Bard the Bowman yng nghyfres 'The Hobbit'

Ma' hyd yn oed y cewri fel Burton a Hopkins wedi llwyddo i gadw tinc o Gymreictod yn eu hamser; ond falle ma'r gwir yw bod ein actorion ni mor blincin' dda wrth eu gwaith, fel bod nhw'n medru camu mewn i unrhyw bersona ac acen, fel y mynna nhw.

Alla i ddim gweud bo' fi ar dân i weld y Dolittle newydd 'ma, ond wna'i eistedd drwyddi jyst er mwyn clywed acen Robert Downey Jr.

Os bosib, alle fe ddim fod cynddrwg ag acen "cockney" Dick Van Dyke yn Mary Poppins?

Ond os yw e, 'wy'm yn siŵr os fyddai'n chwerthin neu llefain.

Hefyd o ddiddordeb: