'Dim bwriad' atal problem 'erchyll' carthffosiaeth Capel Curig
- Cyhoeddwyd
Mae yna rwystredigaeth yng Nghapel Curig yn Eryri nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i fynd i'r afael â'r trafferthion carthffosiaeth mewn rhan o'r pentref.
Mewn glaw trwm dydy rhai o'r draeniau yno ddim yn gallu ymdopi.
Mae yna adegau pan mae carthffosiaeth heb ei drin yn llifo gyda'r dŵr, a hynny'n bennaf mewn cilfan wrth ochr ffordd yr A5, sy'n boblogaidd fel lle i barcio a chael picnic.
Dywed Dŵr Cymru eu bod yn ymwybodol o'r pryderon ond nad oes cynlluniau i weithredu ar hyn o bryd.
'Problemau ers tro'
Yn ôl cadeirydd Cyngor Cymuned Capel Curig, Gethin Davies, maen nhw wedi bod yn galw am welliannau ers amser maith.
"Mae yna broblem wedi bod ers blynyddoedd lawer a dweud y gwir," meddai.
"Mae newid hinsawdd yn golygu bod ni'n cael llifogydd trwm yn aml. Yn dilyn cyfnodau o law trwm mae caeadau'r draeniau yn chwythu fyny, a mae yna garthffosiaeth amrwd yn llifo i lawr y gilfan.
"Mae'r gilfan yn boblogaidd iawn 'efo cerddwyr sy'n mynd i fyny Moel Siabod. Yn amlwg, di'o ddim yn dderbyniol yn yr oes yma.
"Gyda thwristiaeth mae maint y pentref wedi tyfu ers iddyn nhw roi'r system garthffosiaeth i mewn.
"Mae hi wedi bod yn dalcen caled iawn ceisio dod o hyd i ddatrysiad. Gobeithio gawn ni yn fuan rŵan."
'Erchyll ac annerbyniol'
Mae Llyr Gruffydd AS o Blaid Cymru, sy'n cynrychioli'r gogledd yn y Senedd, hefyd yn flin nad oes dim yn cael ei wneud am y sefyllfa.
"Dyma da ni'n gael o gyfuno poblogaeth sy'n tyfu'n sylweddol yn ystod yr haf 'efo rhai o effeithiau newid hinsawdd, fel glaw trwm, a wedyn is-adeiledd carthffosiaeth Fictorianaidd, cwbl annigonol i'r 21eg ganrif."
"Mae yna garthffosiaeth heb ei drin yn golchi lawr y stryd, a charthion dynol yn y maes parcio. Mae'n gwbl erchyll ac yn gwbl annerbyniol. Mae yna risg gwirioneddol i iechyd y cyhoedd.
"Mae yn risg i feio-amrywiaeth wrth i'r carthion olchi i mewn i afon Llugwy.
"Mae'n gwbl rwystredig i drigolion lleol fod Dŵr Cymru yn golchi'u dwylo ac yn dweud 'nid ein problem ni yw hwn'."
'Rhaid blaenoriaethu arian'
Mewn ymateb dywedodd Dŵr Cymru eu bod nhw yn "deall y pryderon" yn lleol.
Ond mae'n rhaid iddyn nhw flaenoriaethu eu harian a'u hadnoddau wrth ofalu am "36,000km o garthffos, sy'n ddigon i ymestyn i Awstralia ac yn ôl".
Mae yna ardaloedd eraill, medden nhw, lle mae trafferthion tebyg yn agos at gartrefi.
Yng Nghapel Curig fe fydd Dŵr Cymru yn parhau "i adolygu'r sefyllfa" ond "does dim cynlluniau i wneud gwaith yno" ar hyn o bryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Awst 2021