Batwyr Sir Gaerloyw yn creu argraff yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Chris DentFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y capten Chris Dent oedd prif sgoriwr Sir Gaerloyw gyda 75 rhediad

Batwyr Sir Gaerloyw gafodd y gorau o'r ail ddiwrnod yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd ddydd Llun, gan eu rhoi nhw mewn safle cryf cyn diwedd y batiad cyntaf.

Fe wnaeth Morgannwg ddechrau'r ail ddiwrnod ar sgôr o 246-6, ac fe lwyddon nhw i gyrraedd cyfanswm o 309 cyn colli eu wiced olaf.

Eddie Byrom oedd seren y batiad cyntaf, gan gyrraedd sgôr o 78 wedi iddo fod ar 60 heb fod allan dros nos.

Ond cafodd Sir Gaerloyw ddechrau da i'w batiad cyntaf nhw hefyd, gan gyrraedd 224-4 erbyn diwedd yr ail ddiwrnod.

Y capten Chris Dent oedd prif sgoriwr yr ymwelwyr gyda 75, gyda Graeme van Buuren hefyd yn creu argraff gyda 65 heb fod allan.

Bydd Caerloyw felly yn dechrau'r trydydd diwrnod 85 rhediad y tu ôl i Forgannwg, ond gyda chwe wiced yn weddill.

Pynciau cysylltiedig