Ymdrechion i adfywio stryd fawr Llanbedr Pont Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae ymdrech o'r newydd i adfywio stryd fawr Llanbedr Pont Steffan wrth i nifer yr adeiladau gwag yn y dref gynyddu.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi prynu un o'r adeiladau gweigion er mwyn ei adnewyddu a'i gynnig i fusnesau newydd.
I gydfynd â hynny mae murlun gan Hannah Davies, artist lleol, newydd gael ei ddadorchuddio ar wyneb yr adeilad ac mi fydd yn aros yno tan bod y gwaith yn dechrau.
Ers rhyw bum mlynedd, mae hen siop Spar wedi bod ynghau a'r gobaith yn ystod yr wythnosau nesaf yw adnewyddu'r adeilad segur a chreu gofod i ddau fusnes, a fflatiau ar y llawr uchaf.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn anodd denu busnesau newydd i nifer o drefi - Llanbed yn eu plith.
'Ceredigion yn dangos y ffordd'
"Dim yr elw yw'r elfen fan hyn," medd y Cynghorydd Sir Rhodri Evans.
"Fi'n credu bod hi'n bwysig rhoi lle i fusnesau sy'n dechrau neu rhai sydd mewn bodolaeth ar hyn o bryd a sicrhau bod pob help ar gael iddyn nhw - a hefyd 'neud yn siŵr bod economi Ceredigion yn ffynnu a dyma'r unig ffordd i wneud hynny.
"Mae digon o sôn wedi bod am pam nad yw pobl yn helpu busnesau - fi'n credu bod Cyngor Sir Ceredigion wedi stepo mla'n fan hyn gan ddangos bell all ddigwydd a shwt.
"Os bydd y prosiect yn llwyddiant byddwn ni'n symud ymlaen i'r prosiect nesaf."
Mae'r prosiect peilot yn rhan o raglen Datblygu ac Adfywio Cyngor Sir Ceredigion a gobaith y cyngor sir yw atal y stryd fawr rhag dirywio ymhellach.
Dywed y cynghorydd lleol Ivor Williams ei bod yn bwysig helpu pobl sy'n dechrau busnesau.
Costau mawr
"Beth ry'n ni fel cynghorwyr am ei weld yw bod y rhent yn dod lawr i'r siopau 'ma sy'n wag. Mae angen amser ar berson i ddechrau busnes.
"Mae'r trethi yn gallu bod yn uchel ofnadwy - hynna sy'n dal pethe'n ôl, dwi'n meddwl.
"Os yw rhywun ifanc yn dechau busnes heddi' mae eisiau lot o arian jyst i ddechrau'r peth off."
Yn y cyfamser tra bod y gwaith yn digwydd mae disgwyl y bydd cryn drafod ar y murlun lliwgar - murlun sy'n dangos Afon Teifi, adeilad prifysgol y Drindod Dewi Sant yn y dref, y neuadd a llawer o agweddau lleol eraill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2020
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2020