Paratoi i agor capel newydd yn Llanbedr Pont Steffan

  • Cyhoeddwyd
capel LlambedFfynhonnell y llun, Eglwys Efengylaidd Llambed
Disgrifiad o’r llun,

Sylfaen yr adeilad yw sawl bwa pren

Yn nyddiau pan ry'n ni'n clywed am gapeli yn cau, mae tref Llanbed yng Ngheredigion yn paratoi i agor capel newydd sbon.

Eglwys efengylaidd y dref sydd wrth wraidd y cynllun ac mae'r adeilad newydd wedi cael ei leoli y drws nesaf i gaffi Yr Hedyn Mwstard - adeilad a gafodd ei sefydlu i fod yn "ddolen gyswllt rhwng yr eglwys a'r gymuned seciwlar".

Dyma'r tro cyntaf i'r eglwys gael adeilad penodedig.

Am flynyddoedd mae'r gynulleidfa wedi bod yn cwrdd mewn neuadd yn y dref.

capel newyddFfynhonnell y llun, Eglwys Efengylaidd Llanbed
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith cyn cyfyngiadau haint coronafeirws oedd agor capel newydd erbyn y Pasg

Bydd lle i 150 o bobl addoli yn yr adeilad newydd a gobaith yr arweinyddion yw denu cynulleidfa newydd.

Dywedodd un o henaduriaid yr eglwys, Gareth Jones: "Mae wedi bod yn ddymuniad gan yr eglwys ers blynyddoedd i gael cartref ysbrydol ein hunain ac i gael hunaniaeth efengylaidd yn nhre' Llambed a'r ardal.

"Bydd hwn yn fan i bregethu'r efengyl, lle i gyflwyno yr Arglwydd Iesu Grist ac mae'n adeilad sy'n ateb gofynion yr unfed-ganrif-ar-hugain.

"Mae'n fantais cael caffi a chegin Yr Hedyn Mwstard drws nesaf - a bydd yr ystafell fach yn ddefnyddiol i gynnal Ysgol Sul a chyfarfodydd llai.

"Oherwydd hynny mae'n adeilad sy'n gallu cynnig rhywbeth ehangach o lawer na chapeli mwy traddodiadol sydd wedi'n gwasanaethu yn ardderchog dros y blynyddoedd."

Gareth JonesFfynhonnell y llun, Gareth Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Jones, un o'r henaduriaid, yn dweud y bydd y capel newydd yn un ar gyfer yr unfed-ganrif-ar-hugain

Wrth gael ei holi ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru, mae Mr Jones yn cydnabod fod yr eglwys yn fwy nag adeilad.

"Nid adeilad sy'n gwneud yr Efengyl," meddai, "mae gwerth yr adeilad yma yn dibynnu ar yr hyn sy'n cael ei rannu yma, ei bregethu yma a sy'n cael ei fyw drwy'r lle yma ac sy'n dod â ni at yr hyn y mae Cymru wedi ei brofi dros y canrifoedd - diwygiadau - pobl sydd wedi dodi ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist, dyna ein gobaith pennaf ni."

Mae aelodau'r eglwys yn edrych ymlaen yn fawr at agor yr adeilad newydd er bod cyfyngiadau haint coronafeirws yn golygu bod y gwaith adeiladu wedi ei rwystro am y tro.

"Bydd yn dod â sefydlogrwydd," meddai un aelod, "ac ry'n yn gobeithio denu rhagor o addolwyr."

'Dod â thangnefedd'

Dywedodd Kitty Jones, sydd wedi colli ei gŵr yn ddiweddar, bod yr neges yr eglwys hon yn dod â llawenydd a thangnefedd iddi.

Kitty JonesFfynhonnell y llun, Geinor Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kitty Jones ei bod yn cael nerth yng nghymdeithas yr eglwys

Wrth gael ei holi ar ddiwedd un oedfa ganol Mawrth dywedodd: "Rwy'n cael ryw dangnefedd yma. O'dd fy nghalon i yn llawenhau heno ac rwy' wedi cael llawenydd yn ystod y dyddiau diwetha 'ma hyd yn oed wedi claddu fy nghymar.

"Dim ond yr Arglwydd sy'n gallu rhoi hynna i fi. Yn ystod y dyddiau diwetha' 'ma hefyd rwy' wedi gweld gwerth gweddi.

"Does dim rhaid i'r weddi fod yn un ffurfiol - dwi wedi cael bendith mewn ffordd ryfedd."

Ar hyn o bryd yn sgil cyfyngiadau haint coronafeirws mae gwaith ar yr adeilad wedi'i atal ond mae'r trefnwyr yn gobeithio agor yr adeilad yn y dyfodol agos "er mwyn cyflwyno neges yr Arglwydd Iesu a chyrraedd cynulleidfa newydd".

Bydd yr hanes i'w glywed yn llawn ar Bwrw Golwg am 12.30 ar BBC Radio Cymru, ddydd Sul, 5ed o Ebrill.