Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Bournemouth

  • Cyhoeddwyd
BillingFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Bournemouth wedi codi i frig y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth agos dros Gaerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mewn hanner cyntaf cymharol di-fflach, Jaidon Anthony a Jefferson Lerma gafodd y cyfleoedd gorau i roi'r ymwelwyr ar y blaen, gyda ergyd gorau Caerdydd yn disgyn i Kieffer Moore.

Wedi naw munud o'r ail hanner roedd Bournemouth ar y blaen, wrth i ergyd Philip Billing o du allan i'r cwrt cosbi guro Dillon Phillips yn y gôl.

Ceisiodd Caerdydd unioni'r sgôr, gyda'r eilydd James Collins ymhlith y rheiny ddaeth agosaf a'r dyfarnwr yn anwybyddu gwaedd Moore am gic o'r smotyn, ond colli am yr eildro mewn wythnos oedd hanes yr Adar Gleision ar y chwiban olaf.

Pynciau cysylltiedig