Y Bencampwriaeth: Luton 3-3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Luke Berry yn sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Llwyddodd Abertawe i frwydro yn ôl yn syfrdanol i gipio gêm gyfartal yn erbyn Luton ar ôl bod dair gôl ar ei hôl hi ar yr egwyl.

Roedd Abertawe ar chwâl yn yr hanner cyntaf, gydag ergyd acrobataidd Luke Berry yn rhoi'r Hatters ar y blaen wedi saith munud yn unig.

Dyblwyd y fantais wedi 15 munud ar ôl i Kyle Naughton faglu Harry Cornick yn y cwrt cosbi, gydag Elijah Adebayo yn rhwydo o'r smotyn.

Er i Abertawe reoli'r meddiant, Luton oedd yn cael y cyfleoedd gorau ac erbyn hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf roedd hi'n dair i'r tîm cartref, wrth i Adebayo sgorio eto.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i'r Elyrch wedi 63 munud wrth i ergyd Jamie Paterson wyro heibio i'r golwr Simon Sluga i gefn y rhwyd.

Caewyd y bwlch i un gyda llai na phum munud i fynd diolch i gôl wych gan Olivier Ntcham, cyn i Joel Piroe gipio'r pwynt yn yr amser anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Pynciau cysylltiedig