Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Dagenham & Redbridge

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Getty Images

Tarodd Wrecsam yn ôl gyda buddugoliaeth ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn wedi iddyn nhw golli am y tro cyntaf y tymor yma yng nghanol yr wythnos.

Daeth y gôl agoriadol yn erbyn Dagenham & Redbridge wedi dim ond wyth munud, wrth i'r ymosodwr Paul Mullin ganfod cefn y rhwyd gydag ergyd wych ar ei droed chwith.

Llwyddodd y Dreigiau i wrthsefyll pwysau'r ymwelwyr yn yr ail hanner, gydag ergyd Matt Robinson yn mynd dros y trawst a'r golwr Rob Lainton yn arbed ergyd Josh Walker.

Cyn heddiw doedd Dagenham & Redbridge heb golli'r tymor hwn yn y gynghrair, gan eistedd ar frig y tabl gyda phum buddugoliaeth mewn chwech.

Pynciau cysylltiedig