Chelsea Flower Show: 'Mae ganddo ni 2000 o cocktail sticks i osod y tomatos a'r radish'
- Cyhoeddwyd
![Medwyn yn gosod moron i'w arddangos](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5036/production/_120643502_2748741e-f246-4fdb-b0aa-d3cf13f9415f.jpg)
Mae angen ymroddiad i dyfu llysiau'r ardd ond i ennill gwobr yn un o sioeau enwoca'r byd mae angen misoedd o waith tyfu, wythnos o gynaeafu a golchi, tridiau o osod - a 2000 o ffyn coctel.
Dyna sut wnaeth y garddwr o Fôn Medwyn Williams lwyddo i gael ei 13eg gwobr aur yn y RHS Chelsea Flower Show yr wythnos yma.
![Medwyn Williams gyda Bill Bailey](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11110/production/_120640996_5051cb18-f816-4e4a-87a8-4a325dce2da4.jpg)
Y digrifwr Bill Bailey gyda Medwyn Williams o flaen ei arddangosfa
Dechreuodd ar y gwaith paratoi naw mis yn ôl, gan ddechrau tyfu nionod cyn y Nadolig, ac amseru plannu degau o lysiau eraill dros y flwyddyn i wneud yn siŵr eu bod yn barod erbyn mis Medi.
Wythnos cyn y sioe mae'n dechrau cynaeafu, gyda'r llysiau caled fel tatws a betys yn cael eu codi gyntaf gan nad ydi nhw'n difetha mor gyflym. Mae'n cynaeafu a glanhau popeth dros y dyddiau nesaf a'u cadw'n ofalus gan ddewis dim ond y gorau i'w harddangos.
![Moron yn cael eu paratoi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/000E/production/_120641000_zzuntitled-1.jpg)
"Unrhywbeth o dan y pridd, fel moron, mae'n anodd gwybod os ydi nhw'n rhai da cyn eu codi nhw - dwi'n deud yn aml faswn i'n licio cael llygaid x-ray," meddai Medwyn.
"Maen nhw'n cael eu trin fel babis - 'da ni'n eu golchi nhw, rhoi papur gwlyb o'u cwmpas i gadw nhw'n ffresh. Mae 'na 42 gwahanol fath o lysiau wedyn yn mynd lawr i Lundain mewn dwy fan."
A dyna pryd mae'r gwaith manwl yn dechrau.
![Gwaith paratoi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/753E/production/_120641003_z.jpg)
Mae'r paratoi yn cynnwys gwaith cerfio delweddau mewn pwmpen
Dywedodd Medwyn o'r sioe ar ôl derbyn ei fedal aur: "Unwaith 'da ni lawr yma, mae'n 12 awr bob dydd, o ddydd Gwener tan ddydd Sul i gael bob dim yn barod ac mae 'na bump ohonon ni yma. Mae ganddo ni 2000 o cocktail sticks i osod pethau fel y tomatos a'r radish."
"Mae'n waith caled. Fydda i'n 80 flwyddyn nesa a beryg mai hwn fydd fy nhro ola' yn cystadlu yma."
![Y cynnyrch ar fwrdd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7746/production/_120643503_e31129b3-c4c6-49f8-9891-b8e191ede5e6.jpg)
Haeddu medal... yr arddangosfa yn ei holl ogoniant
![Medwyn gyda'r cerddor a'r cyflwynydd Cerys Matthews a David Myers, o'r Hairy Bikers](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/25E8/production/_120640790_12a28402-a337-4b7d-9490-d390c4d1d0d3.jpg)
Y cerddor a'r cyflwynydd Cerys Matthews a David Myers, o'r Hairy Bikers, gyda Medwyn
Ond os mai dyma fydd ei dro olaf, mae ei waith da yn parhau - gan fod ei ŵyr Richard wedi bod yn ei helpu yn Chelsea eleni am y tro cyntaf. Mae gan Medwyn or-ŵyr hefyd sy'n dangos diddordeb ac yntau'n chwech oed.
"Wnaeth o helpu golchi'r llysiau ac roedd o'n ddŵr i gyd, ond fel yna neshi ddysgu gan fy nhad pan o'n i tua'r un oed. Gobeithio neith o barhau - alli di ddim ond agor y giât iddyn nhw."
![Medwyn a'i wyr gyda'r fedal aur](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2926/production/_120643501_b027089d-f73c-4cd6-8d82-32f478db326f.jpg)
Medwyn gyda Richard ei ŵyr, a'r fedal aur
Hefyd o ddiddordeb:
Bydd Medwyn Williams ar raglen Galwad Cynnar Radio Cymru ddydd Sadwrn 25 Medi