3 Llun: Lluniau pwysicaf Catrin Toffoc
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Catrin 'Toffoc' Jones i roi gwên ar wynebau gymaint ohono ni gyda'i thudalen Facebook 'Côr-ona' - y dudalen oedd yn annog pobl i rannu eu doniau cerddorol dros y cyfnod clo, a chael bach o hwyl yr un pryd.
Dyma'r tri llun sy'n golygu mwyaf i'r arwres a enillodd wobr 'Dathlu Dewrder' S4C am ei gwaith dros y cyfnod clo.
"Dyma Bleddyn y mab hynaf a finna' yng Nghwm Idwal rhyw ddwy flynedd yn ôl. Y flaenoriaeth fwyaf sydd gen i mewn bywyd ydy rhoi'r fagwraeth orau y galla i i fy hogia'. I mi, mae'r llun yma'n crisialu hynny… nid llun ohona ni mewn ystafell llawn teganau neu rhyw geriach drud, ond allan yng ngogoniant Eryri, awyr iach lond ein penna' ac yn mwynhau cwmni ein gilydd fel teulu."
"Dwi'n arwain Hogia Llanbobman, a fel côr 'da ni wedi cael andros o hwyl dros y ddegawd a mwy ddiwethaf. Mae sawl uchafbwynt wedi bod a mi oedd hon bendant yn un, sef cael canu yn Stadiwm y Principality yng ngêm Cymru v Tonga yn 2019 o dan baton y Maestro Haydn James. Doedd dim golwg parchus arnyn nhw yn hir iawn!"
"Dydy fy nheulu ddim hanner call… fel y gwelwch chi! Ond, mae nhw werth y byd i gyd yn enwedig ers cael plant ac ers y pandemig. Dwi'n gweld cymaint ydy gwerth teulu ac mae bob dim arall yn eilradd. Parti priodas fy nghefnder Owain a'i wraig Awel oeddan ni yn fama, a fi ydy'r madfall!"