Cleifion Covid wedi dal y feirws yn ysbytai'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae'r bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu gogledd Cymru'n dweud bod rhai o'r cleifion coronafeirws sy'n cael triniaeth ysbyty ar hyn o bryd wedi dal y feirws yn yr ysbyty.
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn parhau i reoli clystyrau Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Ysbyty Bae Colwyn ac Ysbyty Llandudno.
Mae'r bwrdd wedi cadarnhau bod cyfanswm o 82 o gleifion ysbyty gyda'r feirws hyd at fore Mawrth, 21 Medi, a bod 34 yn rhagor o gleifion yn gwella ar ôl cael yr haint.
Mae rheolau sy'n cyfyngu ar ymweliadau ysbyty ers i glystyrau ddod i'r amlwg yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon ddiwedd Awst yn parhau mewn grym.
Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd y bwrdd bod 59 o gleifion ysbyty yn ardal canol y gogledd sydd â Covid-19 ar hyn o bryd ac mae 12 yn gwella o'r feirws.
Yn ardal y gorllewin, mae ysbytai'n trin 23 o gleifion â'r feirws ac mae 22 o gleifion yn gwella ohono.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth y bwrdd, Gill Harris: "Cadarnhawyd fod nifer fechan o'r cleifion hyn wedi dal yr haint mewn ysbyty ac maent yn gysylltiedig â'r brigiad."
'Cyfyngiadau caeth' ar ymweliadau
Mae'r ward a gafodd ei heffeithio gan glwstwr achosion yn Ysbyty Eryri, meddai, "bellach wedi ailagor i dderbyn cleifion ac rydym ni'n hyderus fod y sefyllfa'n gwella yn Ysbyty Gwynedd".
Ond mae "cyfyngiadau caeth" ar ymweliadau yn dal mewn grym yn yr ysbytai sydd wedi'u heffeithio.
"Nid yw'r penderfyniad hwn yn effeithio ar ganllawiau ynghylch ymweliadau â'n gwasanaethau mamolaeth, paediatreg a'r newydd-anedig yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd," meddai Ms Harris.
"Mae'n rhaid i geisiadau am ymweliadau eithriadol megis ymweld â pherthynas sy'n tynnu at ddiwedd eu hoes gael eu gwneud trwy gysylltu'n uniongyrchol â'r ward...
"Bydd angen cwblhau asesiad risg unigol cyn cyrraedd ac wrth gyrraedd ar gyfer ymweliad cymeradwy fel y gallwn ni gadw cleifion, staff ac ymwelwyr yn ddiogel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021