Llanystumdwy 1912: Tynnu gwallt a rhwygo dillad swffragetiaid

  • Cyhoeddwyd
Syffrajet yn cael ei dal gan yr heddlu yn LlanystumdwyFfynhonnell y llun, P. A. Reuter
Disgrifiad o’r llun,

Yr heddlu yn cludo swffragét yn Llanystumdwy yn 1912

Ym mhentref tawel Llanystumdwy yn 1912 gwelwyd un o'r digwyddiadau mwyaf dramatig yn hanes yr ymgyrch dros ennill y bleidlais i ferched yng Nghymru.

Ar 21 Medi, chwyddodd poblogaeth arferol yr ardal o 150 i 5,000 wrth i bobl heidio yno ar gyfer achlysur agor neuadd bentref, a hynny, o dan nawdd Canghellor y Trysorlys; y Dewin o Ddwyfor, David Lloyd George. Yno, yn disgwyl yn eiddgar yn y dorf roedd sawl swffragét yn barod i darfu ar ei araith a sicrhau cyhoeddusrwydd i'w hachos.

Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn adrodd hanes yr helynt.

Dechreuodd yr ymgyrch dros ennill y bleidlais i ferched yn ystod yr 1860au. Datblygodd y mudiad yn raddol gan ddenu cefnogwyr trwy gynnal cyfarfodydd a llunio deisebau.

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yng Nghymru yn Neuadd Dirwest Merthyr Tudful ar 3 Mehefin 1870. Ar y cyfan, digon cymedrol oedd galwadau'r grwpiau cynnar gydag ymgyrchwyr yn awyddus i ymestyn y bleidlais i ferched di-briod a gweddwon yn bennaf.

Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, diolch i bropaganda cymdeithasau fel y National Union of Women's Suffrage Societies a ffurfiwyd yn 1897 roedd yr ymgyrch yn dechrau ennill mwy o gefnogaeth a sylw.

Ffynhonnell y llun, Mary Thorley
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rachel Barrett o Gaerfyrddin - yma yn ei gwisg Gymreig mewn gorymdaith cyn Coroni Brenin Siôr V yn 1911 - yn Gymraes flaenllaw ym mrwydr y swffragetiaid

Llwyddodd yr NUWSS i ennill tir yng Nghymru gyda'r gangen Gymreig gyntaf yn cael ei sefydlu yn Llandudno yn 1907. Y flwyddyn ganlynol sefydlwyd cangen yng Nghaerdydd a'r Rhyl, ym Mangor yn 1909 ac yng Nghaernarfon yn 1910.

Mae rhai wedi dadlau na welwyd llawer o gefnogaeth i'r ymgyrch yng Nghymru gan bwysleisio natur Seisnig y mudiadau.

Un gangen o'r NUWSS a ddenodd sylw merched dosbarth-gweithiol Cymraeg eu hiaith oedd cangen Bangor. Trwy gyfieithu deunydd y mudiad llwyddodd y gangen i ennill cefnogaeth yn y bröydd chwarelyddol; ym Methesda ac yn Nhal-y-sarn a Phen-y-groes yn Nyffryn Nantlle.

Y merched yn erbyn Lloyd George

Ym marn rhai roedd gofyn gweithredu yn fwy uniongyrchol gan ddefnyddio dulliau newydd, beiddgar.

Yn 1906, rhwng cloriau'r Daily Mail bathwyd y term dirmygus suffragette. Y bwriad oedd gwahaniaethu rhwng y rheiny a oedd yn dymuno ennill y bleidlais trwy ddulliau heddychlon a chyfreithlon, y suffragists, a'r rheiny a oedd yn credu bod rhaid defnyddio dulliau milwriaethus fel torri ffenestri a llosgi blychau post, y suffragettes.

Roedd y swffragetiaid fel rheol yn perthyn i fudiad y WSPU - Women's Social and Political Union - ac fel aelod blaenllaw o Lywodraeth Ryddfrydol y dydd, un o'u gelynion pennaf oedd Lloyd George.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Byddai swffragetiaid yn dilyn Lloyd George ar y stryd i leisio eu hachos, fel yn y llun yma o tua 1910

Ym mis Mai 1912, penderfynodd sawl swffragét darfu ar Lloyd George yn annerch ym Mhafiliwn Caernarfon. Yno, cafwyd golygfeydd treisgar wrth i'r dorf rwygo dillad y merched, tynnu eu gwallt a'u curo'n greulon gyda ffyn ac ymbarelau.

Ychydig wythnosau cyn yr aflonyddwch yn Llanystumdwy, diarddelwyd wyth o ferched ac un dyn o bafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam pan darfwyd unwaith yn rhagor ar Lloyd George yn areithio o flaen torf o 4,000. Yno hefyd ymosododd y dorf yn giaidd ar y merched.

I nifer, roedd Lloyd George yn drysor cenedlaethol ac yn eu golwg hwy yn llawer mwy na gwleidydd yn unig. I'w gefnogwyr, roedd ymosodiad ar Lloyd George yn ymosodiad ar Gymreictod - a hynny yn yr Eisteddfod o bob man!

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Yng nghanol y dyrfa: Swffragét a darfodd ar araith Lloyd George yn Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam 5 Medi 1912

'Tynnwyd eu gwalltiau yn dalpiau...'

Yn dilyn y trafferthion yng Nghaernarfon a Wrecsam roedd llawer o bobl wedi rhagweld y byddai trafferthion yn Llanystumdwy.

Yn grediniol y byddai dulliau milwriaethus yn gwneud mwy o ddrwg nag o dda, penderfynodd cangen Cricieth o'r NUWSS ysgrifennu at yr WSPU yn erfyn arnynt i beidio codi stŵr gan nodi 'personal attacks on and abuse of Mr Lloyd George on the part of strangers in his native village will naturally not be tolerated.'

Yn wir, cyn gynted ag y dechreuodd Lloyd George annerch daeth y waedd anochel 'What about votes for women?' Ymosododd y dorf ar y ferch ar unwaith, ond ni pheidiodd y gweiddi wrth i nifer o ferched eraill ymuno a chodi eu llais.

Parhaodd y dorf i ymosod arnynt gan rwygo eu dillad â'u noethi'n rhannol, tynnwyd eu gwalltiau yn dalpiau a brathwyd sawl un ohonynt.

Mae'n debyg y bu ymgais aflwyddiannus i daflu un o'r merched dros bont y pentref i mewn i afon Dwyfor, cwymp a fyddai mwy na thebyg wedi bod yn un angheuol. Gosodwyd pen un ohonynt o dan bwmp dŵr y pentref a thaflwyd un arall dros glawdd.

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Trodd y dyrfa yn Llanystumdwy ar y swffragét yma oedd wedi 'codi stŵr' yn ystod ymweliad Lloyd George â'i bentref genedigol

Adroddwyd yr hanes yn y mwyafrif o'r papurau mawr cenedlaethol. Yn rhifyn 28 Medi 1912 o'r Illustrated London News neilltuwyd tudalen gyfan ar gyfer ffotograffau o'r cam-drin a welwyd yn Llanystumdwy.

At ei gilydd, roedd gohebwyr o Loegr wedi cael eu syfrdanu gan yr helynt ac mae'n sicr i'r aflonyddwch dderbyn mwy o gyhoeddusrwydd o'i gymharu â digwyddiadau tebyg y tu allan i Gymru.

I'r gwrthwyneb, yng Nghymru ychydig iawn o ohebwyr a llythyrwyr a gondemniodd ymateb y dorf yn Llanystumdwy, er gwaetha'r ffaith bod eu hymddygiad y prynhawn hwnnw yn gwbl groes i'r darlun o genedl barchus yr oedd y Cymry wedi ceisio ei chreu ers degawdau.

Fe dawelodd ymgyrchoedd merched y bleidlais o 1914 ymlaen wrth i'r mwyafrif gytuno i flaenoriaethu'r ymdrech ryfel.

Gyda chadoediad 1918 fe ymestynnwyd y bleidlais i rai merched ond byddai'n rhaid disgwyl tan 1928 i ferched ennill y bleidlais ar yr un telerau â'u cyfoedion gwrywaidd.

Pynciau cysylltiedig