Cyfnod 'argyfyngus' i ysgolion Sul Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r rhan fwyaf o ysgolion Sul gau am byth wedi'r pandemig, yn ôl Cyngor Ysgolion Sul Cymru
Mae'n gyfnod "argyfyngus" i ysgolion Sul Cymru, gyda disgwyl i'r rhan fwyaf gau am byth wedi'r pandemig - dyna mae Cyngor Ysgolion Sul Cymru yn ei ddweud.
Mae cyfarwyddwr y Cyngor, y Parch Aled Davies, wedi dweud wrth raglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru mai dyma'r cyfnod gwaethaf ers 200 mlynedd.
"Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i ysgolion Sul," medd y Parch Davies.
"Mae nifer o ysgolion Sul wedi symud ar Zoom ond y gwir amdani yw bod trwch ysgolion Sul wedi cau am flwyddyn a hanner."
Er bod rhai ysgolion Sul wedi ail-ddechrau cyfarfod yn eu haddoldai wedi i'r cyfyngiadau coronafeirws lacio, nid dyna'r sefyllfa i'r mwyafrif.
"Mae gen i bryder gwirioneddol bod llawer iawn o ysgolion Sul nad ydyn nhw yn mynd i ailagor o gwbl," medd Parch Davies.
"Mae nifer o'r gwirfoddolwyr, athrawon yr ysgolion Sul, yn dweud wrthan ni, ''Dan ni wedi bod wrthi ers 45 mlynedd a 'dan ni'n teimlo ar ôl hyn i gyd nad ydan ni'n credu y gallwn ni ailgychwyn pethau unwaith yn rhagor.' Mae hynny'n mynd i fod yn her i'r eglwysi a'r enwadau."

Mae Eglwys Bresbyteraidd y Crwys yng Nghaerdydd wedi ailagor yr ysgol Sul yn yr adeilad unwaith eto
Am y tro cyntaf erioed dydi'r Cyngor Ysgolion Sul ddim wedi darparu gwers ar gyfer ysgol Sul oedolion y mis hwn. Doedd dim galw am yr adnoddau, ac yr un yw'r sefyllfa i bob enwad.
Ond mae Eglwys Bresbyteraidd y Crwys yng Nghaerdydd wedi ailagor yr ysgol Sul yn yr adeilad unwaith eto.
Bu'r plant a'u hathrawon yn cynnal sesiynau dros y we wedi i'r argyfwng ddechrau ac yna mewn parc lleol wedi i'r cyfyngiadau lacio.
"O'n ni'n mynd ar Zoom a gweld ein gilydd a siarad, ac ar y diwedd, y rhan gorau oedd cwisKahoot a gweld pwy oedd wedi dysgu'r mwyaf!" medd Mari, 12 oed.
Mae ei chwaer Tegwen, 9, yn cytuno: "O'n i'n mwynhau darllen mas ar y sleidiau efo'r storiâu gwahanol a neud gwaith celf."

Mae Capel y Crwys yn dal yn darlledu eu gwasanaethau ar-lein
Ond, yn ôl y Parch Davies o'r Cyngor Ysgolion Sul, mae cynnal ysgol Sul dros y we yn arbennig o heriol gan fod dim modd ail-greu sawl agwedd o'r hyn mae plant yn ei fwynhau mewn capel.
"I raddau mae profiad ysgol Sul yn ymwneud â'r berthynas gyda pherson, gyda'r plant eraill, y sgwrsio, y gemau, yr hel casgliad - popeth sy'n ymwneud â bod mewn festri ac mae hynny wedi'i golli," meddai.
Yn y Crwys hefyd, mae'r plant yn dweud eu bod nhw'n cael mwy o hwyl wrth gwrdd yn y cnawd.
"Dwi'n teimlo'n really hapus achos 'dan ni wedi neud lot o stwff ar y cyfrifiadur a nawr 'dy'n ni'n cael cwrdd wyneb yn wyneb," medd Tegwen.
"Dwi'n hapus iawn i weld pobl go iawn, nid drwy gyfrifiadur," medd Mathew, 10 oed.

Plant ysgol Sul y Crwys yn cymryd rhan dros y we yn ystod y cyfnod clo
Arweinydd yr ysgol Sul, Hannah Thomas oedd yn cydlynu'r sesiynau ac mae'n dweud bod yr ysgol Sul wedi dechrau cyfarfod dros y we hyd yn oed cyn i ysgolion gwladol ddechrau gwneud hynny.
"Rwy'n credu ar y dechrau roedd e'n dipyn o novelty achos doedd dim gwersi rhithiol yn yr ysgolion ac roedd pawb yn awyddus iawn i gwrdd," meddai.
"O'n ni'n neud llawer o bethau amrywiol. Roedd y plant yn cymryd tro i ddarllen, ro'n ni'n e-bostio gweithgareddau at ein gilydd a gwneud sawl sesiwn gelf estynedig.
"Rwy'n credu ein bod ni wedi symud i bennod newydd nawr. Ni'n dilyn yr holl gyfarwyddiadau ac yn mynd o wythnos i wythnos."
Pandemig wedi prysuro dirywiad
Mae'r Cyngor Ysgolion Sul yn darparu adnoddau ar-lein ar gyfer ysgolion Sul ac yn dweud eu bod yn hapus i drafod ag unrhyw ysgol Sul sydd eisiau cymorth i ddal ati. Ond, mae'r cyngor yn cydnabod bod y pandemig wedi prysuro dirywiad oedd eisoes yn digwydd.
"Mae'r ysgol Sul wedi para, yn enwedig yn y Gymru Gymraeg, yn sefydliad cryf drwy'r degawdau olaf 'ma. Ond mae'r argyfwng Covid 'ma wedi gadael ei ôl," meddai'r cyngor.
"Wrth i gynulleidfa capel fynd yn hŷn dyw'r gwirfoddolwyr a'r athrawon fyddai wedi bwydo yn y gorffennol ddim yno. Mae hyn wedi cyflymu falle dirywiad oedd eisoes yn bod."
Gellir clywed mwy am y stori yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2020