Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-0 Huddersfield
- Cyhoeddwyd
Fe gipiodd Abertawe driphwynt pwysig yn erbyn Huddersfield, gan sicrhau eu buddugoliaeth gartref gyntaf ers dechrau'r tymor.
Gôl Joel Piroe - ei chweched o'r tymor ymhob cystadleuaeth - oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn Stadiwm Swansea-com.
Fe roddodd yr Elyrch ar y blaen wedi 17 o funudau - roedd yn ergyd hyfryd a doedd dim gobaith i'r golwr Lee Nicholls i'w harbed.
Daeth yn agos iawn at sgorio eto ddwywaith cyn diwedd yr hanner cyntaf - mewn arbediad campus fe lwyddodd Nicholls i gael ei law chwith i'r bêl i'w hatal rhag croesi'r llinell. Collodd Jamie Paterson gyfle euraidd hefyd i rwydo.
Nid am y tro cyntaf y tymor hwn, Abertawe oedd yn llwyddo i gael y meddiant gorau, ond gyda Huddersfield heb gynnal ymosodiad o bwys, fe fuasai'r sgôr wedi gallu bod yn fwy cyfforddus na 1-0 ar yr egwyl.
Yn yr ail hanner fe lwyddodd Huddersfield i greu mwy o gyfleoedd i'w hunain, gan roi mwy o her i'r tîm cartref, ac roedd Piroe'n edrych yn flinedig cyn iddo gael ei eilyddio.
Liam Cullen ddaeth i'r maes yn ei le ac fe rwydodd yntau yn y munudau ychwanegol ond i'r llimanwr ddyfarnu bod yna gamsefyll.
Mae'r triphwynt ychwanegol yn golygu bod Abertawe wedi codi o'r 20fed i'r 17fed safle.